Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

asgwrn cynnen. Ai pobl yn unig ydym ni'r Cymry, neu a oes y fath beth â chenedl Gymreig? Yn ôl dadansoddiad J.R., pobl yn unig sydd yma, ac un o'i bryderon mawr oedd y perygl 0 lithro i afael y dybiaeth anach ein bod yn genedl Brydeinig. Y mae Lloyd-Jones yn amlinellu safiad J.R. ar y materion hyn yn ddeheuig, gan ein hatgoffa am ddylanwad Fichte ar y naill law, a beirniadaethau'r Dr. Tudur Jones ar y llaw arall. Mae'n wir nad hawdd, mewn gofod cyfyngedig, fyddai datblygu ymdriniaeth feirniadol helaeth o waith J.R., ond teimlwn o bryd i'w gilydd fod yna or-ddibyniaeth ar eiriau testun J.R. ei hun. Fe hoffwn fod wedi clywed llais Lloyd-Jones yn amlach ymdrech i oleuo tipyn ar y testun drwy ddweud y stori megis yn ei iaith ei hun. Ac er na ellid disgwyl beirniadaeth gyflawn, tybed nad oedd cyfle er hynny i godi cwestiwn? Ai rhywbeth i'w lyncu'n ddigwestiwn ydyw'r syniad o'r Anfeidrol fel nerth 'absendoldeb', nerth 'anallu', neu nerth 'di-nerth'? Oni ddaeth yn amser, hefyd, i ddad- bacio syniadau fel gwacter ystyr, ystyr bodolaeth, ystyr bywyd, ac felly'n y blaen, a gofyn beth yn hollol a olygir? Fe ellid codi cwestiynau hefyd ynglyn â phwyslais J.R. ar y cysylltiad rhwng datblygiad person- oliaeth yr unigolyn a'r cydgyswllt cenedlaethol. Gyda chynnydd parhaus priodi, a chyd-fyw, ar draws ffiniau cenedlaethol, beth sydd i'w ddweud am y gwreiddiau cened- laethol fel 'maeth anhepgor' i eneidiau plant y cyfryw? Syniad arall y gellid codi cwestiwn yn ei gylch ydyw'r syniad o sofraniaeth, yn arbennig o ystyried y datblygiadau Ewropeaidd diweddar. Yn anffodus bu llithriadau printio yma ac acw, ac ar dudalen 25 fe sillefir enw awdur The Quest of the Historical Jesus fel hyn, Scgweitzer, ac yna bedair llinell yn nes ymlaen fel hyn, Schwitzer, a dwy linell ymlaen wedyn, yn gywir, fel Schweitzer. Wel, tri chais i Gymro, mae'n debyg! Yn sicr, fe ellir cymeradwyo'r gyfrol fel ffynhonnell hwylus ar gyfer astudiaeth bellach o feddwl treiddgar ac eangfrydig J. R. Jones. O. R. JONES, Aberystwyth THOMAS RAIN CROWE, (Ed.), A Celtic Resurgance, The New Celtic Poetry. New Native Press, £ 9.50. Dyma am wn i yr arolwg sylweddol cyntaf mewn cyfieithiadau (mewn unrhyw iaith) o feirdd cyfoes ieithoedd brodorol Cymru, Llydaw, yr Alban, Iwerddon, Cernyw a Manaw. Nid wyf erioed wedi cael fy nghyffwrdd mor ddwfn gan flodeugerdd o farddoniaeth ryng- wladol â chan y flodeugerdd hon. Efallai am nad oeddwn yn disgwyl iddi fy nghodi ar fy nhraed. Darllenais cyn hyn waith gan ryw dri o'r Llydawiaid hyn, rhyw dri o'r Gwyddyl a rhyw bump o'r Alban- wyr, ac un o'r Cernywiaid. Ond wn i ddim ai'r dewis ei hun a oedd yn gyfrifol ynteu'r ffaith fod y rhain wedi'u cynnull o blith y chwe gwlad Geltaidd: beth bynnag, yr oedd yna undod cwbl annisgwyl yn y gwaith