Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cymeriad lliwgar yn y fan yma: bardd, cyfieithydd a golygydd amryw gyfrolau. Fe wnaeth ef gymwynas haelfrydig â'r gwledydd Celtaidd drwy roi'r gyfrol hon at ei gilydd. Credaf y bydd mwy na'r gwledydd Celtaidd yn cael blas a rhyfeddod yn ei weledigaeth. BOBI JONES A. M. ALLCHIN, God's Presence makes the World. The Celtic Vision through the Centuries in Wales (Dartons Longman and Todd, 1997), Pris: £ 9.95. Mae'n arwddocaol nad yw'r gair 'ysbrydolrwydd' yn ymddangos yn Termau Diwinyddiaeth (1968). Yn yr argraffiad diweddaraf o'r Oxford Dictionary of the Christian Church dywedir mai yn yr ugeinfed ganrif y daeth y gair yn amlwg yn y traddodiad Cristnogol. Ond yr hyn sydd yn sicr yw bod y ffenomen fel y dengys y gyfrol hon yn hyn o lawer. Ychwanega'r Geiriadur ymhellach nad oes diffiniad boddhaol o natur 'ysbrydolrwydd'. Fe'i defnyddir, fel rheol, i ddisgrifìo'r ymarferion hynny sydd yn deillio o berthynas unigolyn a grwpiau â Duw. Ystyrir gweddi, myfyrdod, a chyfriniaeth fel amlygiadau o 'ysbrydolrwydd'. Cyf- eirir hefyd at ysgolion a nodweddir gan 'ysbrydolrwydd', e.e., 'ysbryd- olrwydd' Sistersaidd, ysbrydol- rwydd' lleyg, ac yn y blynyddoedd hyn mae cryn sôn am 'ysbryd- olrwydd' ffeministaidd. Yn y bumed ganrif defnyddiwyd y gair i gyfleu ansawdd y bywyd a oedd y deillio o'r doniau ysbrydol a roddir i bawb sydd 'yng Nghrist'. Mae'n bosibl y byddai llai o amwysedd ynglyn ag union ystyr 'ysbrydolrwydd' petaem wedi glynu wrth y diffiniad cynnar yn enwedig pan ystyriwn fod yr ymarferion defosiynol a gysylltwyd ag ysbryd- olrwydd mewn cyfnodau diwedd- arach yn cael eu hystyried yn anghymwys i Gristnogion lleyg. O ganlyniad crewyd hollt rhwng y bywyd moesol sydd yn oblygedig ar bob un Cristion a'r bywyd ysbrydol a oedd yn gyfyngedig i'r Enthwswyr a alwyd i ymarfer eu doniau. Wrth ymdrin ag ysbrydolrwydd Celtaidd dywed yr awdur y gellir olrhain, i lawr i'n dyddiau ni, dra- ddodiad sydd yn cyfuno athrawiaeth y creu ac athrawiaeth iachawdwr- iaeth gyda'u holl ymhlygiadau. Mae'r ddwy athrawiaeth sydd â'u gwraidd yn yr ysgrythur yn ganolog i'r traddodiad Cristnogol, cyffredin- ol, ond myn yr awdur fod y weled- igaeth Geltaidd a'i phwyslais ar bresenoldeb Duw y Gair yn y cread ac yn yr iachawdwriaeth yn ei mynegi mewn modd anarferol o rymus. Yn y bennod gyntaf, ymdrinnir â'r cyfnod cynnar (cyn oddeutu 1200) gan sylwi'n arbennig ar ddau destun sydd yn cysylltu'r ddwy athrawiaeth, sef y creu a'r iachawdwriaeth. Y mae'r naill yn clodfori'r Drindod yn ei weithgarwch creadigol, a'r llall yn moli Mair fel y ferch a gafodd le arbennig yn hanes yr iachawd- wriaeth gan iddi hi ddwyn yn ei chorff y Mab ymgnawdoledig. Mae'r testun ar Fair wedi llwyddo i osgoi'r elfen sentimental, fursennaidd, yn wir, sydd wedi nodweddu cwlt Mair. Canolbwyntia'r ail bennod ar ryfeddod ac amrywiaeth y cread, a