Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Y 'Prophwyd' ar 'Udgorrì: Dau Gylchgrawn Mormonaidd Yn ystod misoedd yr haf yn flynyddol, bydd nifer o Americaniaid o dras Cymreig, yn ymweld â ni yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru gyda'r bwriad o olrhain eu hachau. Bydd gan leiafrif bychan o'r rhain gryn wybodaeth am eu hynafiaid, ond fel rheol, galw wrth basio drwy Aberystwyth megis, yn y gobaith y daw rhyw wybodaeth neu'i gilydd i glawr, fydd hanes y mwyafrif llethol ohonynt. Wrth ddychwelyd i'r Llyfrgell o ginio un prynhawn ym mis Mehefin 1978, daeth neges ataf oddi wrth un o'r porthorion yn dweud bod Americanwr yn awyddus i gael gair â mi ym mhrif ystafell ddarllen Adran y Llyfrau Printiedig. Rhoes gerdyn yn fy llaw ac arno enw a chyfeiriad yr Americanwr, sef Ronald D. Dennis, Athro Sbaeneg a Phortiwgaleg ym Mhrifysgol Brigham Young yn Provo, Utah. Deuthum o hyd iddo ymhen ychydig yn ystafell gatalog yr Adran. Fe'i cyferchais yn Saesneg, ond fe'm hatebodd mewn Cymraeg glân, gloyw, a daeth i'r amlwg yn y man nad oedd Ronald Dennis am olrhain ei achau o gwbl. Yr oedd eisoes wedi cyflawni'r dasg honno rai blynyddoedd ynghynt, a chael cryn lwyddiant wrth y gwaith. Ei brif ddiddordeb yn awr oedd hanes y genhadaeth Formonaidd yng Nghymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg. 'Roedd yn arbennig o awyddus i ddod o hyd i gyfeiriadau at y Mormoniaid yng ngwasg gyfnodol Gymraeg a Chymreig y ganrif ddiwethaf y dadleuon a'r gwrth-ddadleuon, y baledi, y caneuon a'r emynau a'r llu adroddiadau am dwyll a chelwyddau'r cenhadon hynny a ddylanwadodd gymaint ar rai o drigolion cymoedd diwydiannol ac ardaloedd gwledig Cymru yng nghanol y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Cafodd Ronald Dennis helfa fras iawn yn ystod yr haf hwnnw, oblegid brithir prif gylchgronau enwadol y cyfnod â chyfeiriadau lu at weithgarwch y Mormoniaid yng Nghymru. Deuthum i adnabod Ronald Dennis yn dda wedi'r