Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cyfarfyddiad cyntaf hwnnw, a dod i wybod ei fod yn llinach un o'r gwŷr rhyfeddaf a fagodd Cymru'r ganrif ddiwethaf. 'Roedd y mwyafrif o'i gyndadau yn Almaenwyr, ond ym 1866 priododd ei hen dad-cu, gẃr o'r enw Hyrum James Dennis, â Claudia, merch y Capten Dan Jones a Jane Melling ei wraig. Brodor o Helygain yn Sir y Fflint oedd Jones a ymfudodd i America ym 1841 gan gartrefu yn St Louis. Yno y prynodd stemar olwyn The Maid of Iowa, a bu'n ennill ei damaid yn cludo nwyddau a theithwyr ar afon Mississippi o New Orleans i St Louis. Ar un o'r teithiau hyn y daeth i gysylltiad â nifer o ddilynwyr y brodyr Joseph a Hyrum Smith, sefydlwyr Eglwys Iesu Grist o Saint y Dyddiau Diwethaf. Honnodd Joseph Smith ym 1827 bod angel o'r enw Moroni wedi ymddangos iddo, a dweud wrtho bod casgliad o lafnau aur yng nghudd ar fryn yng nghymdogaeth Palmyra yn nhalaith Efrog Newydd, ac fe'i gorchmynnwyd gan yr angel i gyfìeithu'r hieroglyffau a ysgrifennwyd arnynt. Cyflawnodd Smith y dasg honno a chyhoeddwyd ei ddehongliad o gynnwys y llafnau aur yn gyfrol wrth y teitl The Book of Mormon ym 1830. Honnid bod y gwaith hwn yn cynnwys hanes un o'r llwythau coll a wasgarwyd wedi cymysgu'r ieithoedd ym Mabel. Cymerwyd y llwyth hwn i America, ond gan i aelodau o'r llwyth barhau i bechu, parodd Duw iddynt ddirywio, a'r rhain yn ôl Llyfr Mormon, oedd hynafiaid brodorion cyntefig America. Cafwyd nifer o esboniadau ynglyn â tharddiad Llyfr Mormon dros y blynyddoedd, gan gynnwys y ddamcaniaeth mai nofel ramantus a ffansïol gan wr o'r enw Samuel Spaulding a fu'n sail i'r gwaith. Ond yr oedd Joseph Smith esioes wedi sefydlu ei eglwys cyn cyhoeddi'r Llyfr, a llwyddodd i argyhoeddi nifer o'i gymdogion, ei gyfeillion a'i gydnabod ynglyn â dilysrwydd y gwaith. Yn y man, symudodd mintai fechan o Formoniaid i Kirtland yn Ohio, a bu twf graddol yn aelodaeth yr eglwys, ond erlidiwyd hwy oddi yno i Nauvoo yn Illinois. Glaniodd y Maid ofìowa yn Nauvoo ar 12 Ebrill, 1842, ac yno y cyfarfu'r Capten Dan Jones â Joseph Smith am y tro cyntaf. Argyhoeddwyd y Capten o wirionedd y grefydd newydd ac fe'i bedyddiwyd yn nyfroedd rhewllyd afon Mississippi ym mis Ionawr 1843. Honnodd Smith ychydig fisoedd yn ddiweddarach i Dduw ddatguddio iddo ei bod yn ddyletswydd ar bob dyn gymryd iddo'i hun fwy nag un wraig. Parodd hyn gyffro yn Nauvoo, bu terfysgoedd yno a charcharwyd Joseph Smith a'i frawd Hyrum yng ngharchar Carthage, Illinois. Yr oedd Dan Jones gyda hwy yno ar 27 Mehefin 1844 pan ymosodwyd ar y carchar gan dorf o wrthwynebwyr. Bu sgarmes ffyrnig a lladdwyd Joseph a'i frawd, ond llwyddodd Dan Jones i ddianc yn ddianaf. Ychydig dros dair blynedd yn ddiweddarach ysgrifennodd y Capten adroddiad manwl o'r hyn a ddigwyddodd y noson frawychus honno ym mis Mehefin 1844, a chynhwyswyd yr adroddiad hwn yn ei