Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Cymraeg Byw' Heddiw Does dim bai ar neb sy'n fyw heddiw. Cyn-olygydd y cylchgrawn hwn, sef Syr Ifor Williams, biau term (1960) ar gyfer Cymraeg Llafar Safonol ysgrifenedig. Yn y cyfnod diweddar, efô a arloesodd drwy sylwi ar ffaith gydnabyddedig y cywair amlochrog hwn yn y pwlpud, ymhlith Cymry diwylliedig, ac mewn Cymraeg cyhoeddus. Dadleuodd yn gryf mewn cyfres o sgyrsiau neu ysgrifau (1946, 1968) 0 blaid ei hyrwyddo. Efô a amlinellodd rai o'r ffurfiau y gellid eu mabwysiadu a'u cydnabod. A thrwy ei gyfieithiad o Ty Dol gan Ibsen (1926), darparodd fodel ar waith. Ei nod yn y fan yna oedd hyrwyddo'r math o Gymraeg naturiol a oedd eisoes ar gael ac a ddefnyddid mewn gwahanol ardaloedd yng Nghymru mewn math o amgylchfyd 'diduedd'. Felly, dyna un o dri phrif ysgolhaig yr iaith Gymraeg yn yr ugeinfed ganrif yn tynnu'r ellyll o'r botel. Fe'i dilynwyd gan gawr arall, sefG. J. Williams (Taliesin, 1967, er bod ei ddarlith yntau wedi'i thraddodi sawl gwaith tua 1961-2). Ail- wau dadleuon a ffurfiau Syr Ifor a wnaeth ef. Ond unwaith eto, yr oedd yn gwneud hyn ar sail cywair a oedd eisoes ar gael yn gyfredol gyda'r tafodieithoedd ar y naill ochr a Chymraeg Llenyddol ar y llall. Addysg (Iaith Gyntaf) a'r Cyfryngau oedd yr elfennau gwirioneddol newydd a ddaeth i mewn gyda G. J. Williams, ynghyd â'r gosodiad y gellid disgwyl o fewn yr un gwaith llenyddol dyweder stori gywair llenyddol ar gyfer naratif a Chymraeg Llafar Safonol Ysgrifenedig neu Dafodiaith i'r sgyrsio. Credai ef y dylid disgwyl gan athrawon a chan blant mewn Ysgolion a Cholegau Cymraeg eu cyfrwng ac ar y cyfryngau gan gyflwynwyr proffesiynol, mai Cymraeg Llafar Safonol fyddai'r cyfrwng priodol a naturiol, ac y dylid ei hyfforddi fel rhan o'r addysg. O safbwynt llenyddiaeth, cafwyd cyfraniadau cadarnhaol i'r