Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

W. D. Davies (1911-2001) Mae amseriad ambell ddigwyddiad yn peri ei bod yn hynod anodd gwadu lle rhagluniaeth ym mywyd rhywun. Un o'r digwyddiadau hynny yn fy hanes i oedd cyfarfod â'r Athro W D. Davies, yn ei gartref ar gyrion campws urddasol Prifysgol Duke, yn Durham, Gogledd Carolina. Bwriad yr ymweliad â'r Unol Daleithiau ddiwedd Ionawr a dechrau Chwefror eleni (2001), oedd recordio cyfres o raglenni ar gyfer BBC Radio Wales, am ddylanwadau diwinyddol Americanaidd ar Gymru. Ond roedd tro i fod yng nghynffon y gyfres wrth greu rhaglen deyrnged i Gymro oedd wedi dylanwadu ar feddylfryd diwinyddol yn yr Unol Daleithiau a thu hwnt. Y Cymro hwnnw oedd yr Athro W D. Davies a oedd hefyd yn edrych ymlaen at ddathlu ei benblwydd yn ddeg a phedwar ugain cyn diwedd y flwyddyn. Ers cyhoeddi ei gyfrol ddylanwadol Paul and Rabbinic Judaism yn ôl yn 1946 mae to ar ôl to o ysgolheigion wedi tystio i'w ran allweddol ef yn y newid sylfaenol a fu yn astudiaethau'r Testament Newydd yn ystod ail hanner y ganrif ddiwethaf. Oherwydd Cymreictod digyfaddawd W D. Davies, fe gytunwyd i ddau gyfweliad yn union syth, un ar gyfer y rhaglen Saesneg, a'r llall ar gyfer cyfres o raglenni byrion, 'Dal i Gredu', ar BBC Radio Cymru. Darlledwyd y gyntaf o'r rhaglenni Cymraeg hynny ar nos Sul, 10 Mehefin. Dridiau yn ddiweddarach daeth y newyddion trist am farwolaeth W. D. Davies. Darlledwyd gweddill y rhaglenni yn ystod yr wythnosau oedd yn dilyn, gyda chaniatâd y teulu, fel teyrnged i'r Athro. Yn yr erthygl hon, cyhoeddir testun y sgwrs fu rhyngom yn ei gartref yn Durham, Gogledd Carolina yn nechrau Chwefror, y sgwrs oedd yn sail i'r pum rhaglen 'Dal i Gredu'. Mi gredaf fod anwyldeb a gostyngeiddrwydd y g-wr urddasol gyfarfûm yn Durham, a'i gariad ysol at ei fro a'i wlad, i'w gweld drwy'r cyfan, heb sôn am ofal a gweledigaeth bellgyrhaeddol yr ysgolhaig.