Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

I'r Wyryf iawnair yr erfyniais eli, am Dduw a'i weli y meddyliais. Trugaredd Iesu, tra guriais, — a phlaid o ddawn i'm enaid a ddymunais. Mae Lewys Glyn Cothi, fel y dywedwyd, yn sicr yn un o gewri ei gyfnod fel bardd medrus a chain yn dilyn traddodiad llym yr oes gyda'i fesurau amrywiol, y cadwynau englynion, y cymeriad llythrennol, y cymeriad geiriol, yr ailadrodd er pwyslais. Mae'r iaith yn gyfoethog ac yn adlewyrchu meddwl trefnus a disgybledig, a'r geiriau cyfansawdd yn awgrymog i'r eithaf. Nid oes ball ar ei allu dewinol gyda'r gynghanedd, ac y mae'n plygu honno i'w amcan arbennig. Gwelir ei arbenigrwydd hefyd yn ei ddarluniau o berson, cartref, bwyd a diod; ac yn sicr, wrth foli person nid oes dim gormodiaith. Efallai fod yna lacrwydd hwnt ac yma mewn ambell gerdd, eto mae'r cerddi yn gyfanwaith ac y mae undod yr adeiladwaith yn ddigamsyniol. Mae ei fawredd fel bardd a cheinder y cyfan yn ei osod yn rheng flaenaf Beirdd yr Uchelwyr. H. MEURIG EVANS Rhydaman