Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yw'r bwci-bo dieflig sy'n codi arswyd ar nifer o awduron a deallusion mwyaf dylanwadol y Gymru Gymraeg hyd y dydd heddiw. Yn sicr, mae ganddynt ac mae gennym ni i gyd resymau diwylliannol da dros ymgroesi rhag nerth y gyfundrefn Eingl- Americanaidd. Fe geisiais i gydnabod hynny yn y gyfrol Gweld Sêr, ac yn y bennod yn Corresponding Cultures sy'n ymwneud â pherthynas Cymru ac America.3 Ond fe all amheuon iach droi'n rhagfarnau cibddall, afiach. Meddylier, er enghraifft, am y modd y mae Gwenallt yn ymdrin â'r Americanwyr yn y gerdd 'Oberammergau' yn y gyfrol Eples (1951). Mae'n cychwyn drwy sôn am y fraint o gael pererindota 'i blith gwerin fynyddig, goediog, grefftgar, Gatholig Nid oedd yn ei thir adnoddau diwydiannol I'r Mamon asynglust eu codi.' 'Sut', gofynna Gwenallt, 'y gallai Catholigion mor ddidwyll Fagu digon o gasineb yn y Ddrama i'w groeshoelio Ef?' Haws credu y 'Gallai'r Phariseaid Marcsaidd dros y ffin Ei boenydio a'i hongian Ef yn selog giaidd; A gallai'r Americaniaid yn eu mysg Actio'r gwyr busnes yn y Deml i'r dim; A byddai lanci o Iwdas Wedi taro gwell bargen â'r Archoffeiriad'.4 Chwe mlynedd yn unig ar ôl yr Ail Ryfel Byd, felly, mae'n well gan Gwenallt ymddiried yng ngwerinwyr Bafaria, 0 bob man magwrfa Natsïaeth nag yn nhrigolion Boston. Er tegwch iddo, mae'n debyg na wyddai fod llygad y geiniog wedi bod o bwys i drigolion Oberammergau ers y ddeunawfed ganrif o leiaf; a bod eu casineb at yr Iddewon wedi ei amlygu ei hun ar hyd y canrifoedd yn eu perfformiad o'r ddrama. Ond gan mai sôn am gynhyrchiad 1950 yr oedd Gwenallt, fe ddylai fod yn gwybod fod Anton Presinger y gwr a chwaraeai ran Iesu Grist y flwyddyn honno wedi ei gael yn euog gan dribiwnlys yn 1947 o fod yn Nazi; fod Cyngres Iddewon America wedi ymbil ar y Cynghreiriaid i atal y pentrefwyr rhag perfformio'r ddrama; ac mai'r Americanwyr, yn y pen draw, a alluogodd y ddrama i gael ei llwyfannu a hynny drwy dalu am y cynhyrchiad cyfan, er mwyn gosod cynsail economaidd ar gyfer twf cymdeithas ddemocrataidd, oddefgar, wâr ym Mafaria.5 Pe bai gen i amser fe geisiwn i olrhain rhai o oblygiadau cerdd Gwenallt. Pe bai gen i amser ond 'does dim amser gen i, a dyna'n union paham y cyfeiriais, yn nheitl fy narlith, at 'wlad o bosibiliadau'. Nid synied yr oeddwn i'n ystrydebol am America ei hun, ond cyfeirio at y gweddau cyffrous o aneirif ar gydberthynas Cymru a'r Taleithiau, fel yr amlygir y rheini yn niwylliant llen. Swyddogaeth canolfannau ymchwil newydd fel hon yng Nghaerdydd, wrth reswm, fydd ymchwilio i'r posibiliadau hynny ac i'r posibiliadau cyfoethog pellach hynny a amlygir ym maes hanes, cymdeithaseg, economeg, crefydd ac ati. Felly, fe deimlais y byddai'n briodol i fì heno amlinellu rhai o'r posibiliadau apelgar, gogleisiol, difyr, pryfoclyd hynny yr ydw i'n ymwybodol ohonynt yn y cyswllt hwn, gan osgoi, hyd y bo modd, y