Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hyrwyddo newidiadau sylfaenol ym mhatrwm diwylliannol y cymdeithasau glofaol, ac mae'r gweithgarwch hwn o ddiddordeb neilltuol i'r hanesydd lleol yn ogystal ag i'r hanesydd llên a hynny am ei fod yn cynnwys sylwebaeth uniongyrchol a chyfoes ar fywyd bob dydd y cymoedd a'u trigolion. A chymdeithasau symudol oedd y rhain i raddau helaeth. Tyrrodd y Cymry i'r cymoedd diwydiannol yn eu miloedd, i weithio yn y glofeydd a'r gweithfeydd haearn. Fel y chwyddodd y boblogaeth, felly hefyd yr amlhaodd y gweithgarwch diwylliannol, ac awgrymwyd fwy nag unwaith bod y mudo o'r ardaloedd gwledig wedi bod yn gyfrwng i alluogi'r Cymry i gadw eu hiaith yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg.2 Yn sgîl diwydiannu Cwm Cynon gan berchnogion glofeydd fel Richard Fothergill, Matthew Wayne, Thomas Powell, David Williams (Alaw Goch') ac eraill, tyfodd poblogaeth Aberdâr o ryw fìl a hanner ym 1801 i dros ddeugain mil ym 1871, ac yr oedd y mwyafrif llethol o drigolion y dref yn Gymry Cymraeg, a fudodd i'r ardal o siroedd gorllewin Cymru. Yma hefyd y tra arglwyddiaethai'r Parchedig Thomas Price, gweinidog dylanwadol eglwys Fedyddiedig Calfaria, pregethwr a darlithydd, addysgwr a gwleidydd. Datblygodd tref Aberdâr yn ganolfan fasnachol i'r Cwm yn fuan, a ffynnodd yma eto, fel yng nghymoedd eraill Morgannwg, fath o ddiwylliant Cymraeg a oedd yn gyfoethog, yn ddeinamig ac yn egnïol. Nid gwamalu yr oedd yr Athro Bobi Jones pan ddatganodd yn ddiweddar mai: Aberdâr oedd, o bosib, y dref ddosbarth-gweithiol, o'i maint, fwyaf diwylliedig yn y byd. Yr oedd yn ferw o ddiwylliant; gweisg a'u cynnyrch, llenorion, corau, diwinyddion praff, a chyfarfodydd diwylliannol Caed pentwr hefyd o Gymreigyddion yno canghennau'r Swan, Brynhyfryd a'r Carw Coch, a phob un yn cynnal eisteddfodau. A chaed papurau megis Y Gwron a'r Gwladgarwr; dau bapur bro wythnosol, a'r ddau bapur yn dadlau yn erbyn ei gilydd.3 Ymgynullodd yn y cymoedd glofaol hyn, boblogaeth helaeth a ffurfiai uned a allai gynnal gwyliau diwylliannol sylweddol, yn ogystal â chreu cynulleidfa barod ar gyfer y wasg gyfnodol, yn gylchgronau a phapurau newydd fel ei gilydd. Buan y datblygodd Aberdâr yn brif ganolfan argraffu ym Morgannwg, gyda Josiah Thomas Jones, gweinidog gyda'r Annibynwyr, ymhlith arloeswyr y wasg newydd- iadurol yn y dref. Daeth ef i Aberdâr o Gaerfyrddin ym 1854, lle'r oedd eisoes wedi sefydlu Y Gwron Cymreig ddwy flynedd yng nghynt. Ac ar Fawrth 6 1858, ymddangosodd adroddiad manwl ar dudalen blaen Y Gwron, yn sôn bod y wasg mewn gwewyr esgor, a bod 'Gwladgarwr i gael ei eni'. Soniai'r adroddiad am gyfarfod arbennig a gynhaliwyd yn Aberdâr yn ystod y mis Chwefror cynt, i drafod y bwriad o sefydlu