Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ymateb Cristnogol Vr Erthyglau ar Iddewiaeth ac Islam Yn rhifyn Hydref 2006, yn gyfraniad i'r drafodaeth gyfredol ynghylch perthynas Iddewiaeth, Islam a Christnogaeth, y tair crefydd 'Abrahamaidd', cyhoeddwyd erthyglau ar Iddewiaeth gan yr Athro Rabbi Dan Cohn-Sherbok ac ar Islam gan y Dr El-Alami, darlithydd mewn diwinyddiaeth Islamaidd, yn disgrifio hanes a chredoau eu crefyddau. Cafoddy rhifyn hwnnw gryn sylw. Yn y rhifyn hwn parheir y drafodaeth trwy gyhoeddi ymateb diwinydd Cristnogol i'r ddwy erthygl hynny gan yr Athro Paul Badham, cydweithiwr â ŕ Dr Cohn-Sherbok a'r Dr El-Alami yn Adran Ddiwinyddiaeth ac Astudiaethau Crefydd Prifysgol Cymru, Llanbedr Pont Steffan. Mae darllen erthyglau'r Rabbi Dan Cohn-Sherbok a'r Dr El-Alami ar hanes eu crefyddau yn peri i rywun sylweddoli sut y mae hanes cyffredin y tair crefydd Abrahamaidd hyn wedi bod yn un o wrthdaro a gelyniaeth o'r naill du a'r llall. Yn achos Iddewiaeth mae'n hanes o yn agos i ddwy fìl o flynyddoedd o erledigaeth wrthsemitaidd a ddaeth i'w hanterth yn holocawst yr ugeinfed ganrif pan ddifodwyd hanner nifer yr Iddewon. Yn achos Islam a Christnogaeth mae'n hanes maith rhyfel a chamddarlunio sydd, gwaetha'r modd, fel pe bai'n dwysáu yn ein dyddiau ni. Beth sy'n gwneud yr hanes yn arbennig o alaethus wrth i'r Rabbi Cohn-Sherbok a'r Dr El-Alami egluro eu credoau hwy yw ei bod yn dod yn amlwg gymaint sydd ganddynt yn gyffredin â ni. Wrth ddarllen trwy dair egwyddor ar ddeg Maimonides deuir i sylweddoli fod yr holl egwyddorion hyn, ar wahân i'r gwahaniaeth yn y gred yn y Meseia, yn sylfaenol i Gristnogaeth. Fel yr Iddewon credwn ninnau ym modolaeth, undod, anghorfforoldeb, hollwybodusrwydd a thragwydd- olrwydd Duw ac mai Duw yn unig sydd i'w addoli. Fel yr Iddewon