Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ynglŷn â Borges Yn rhifyn Ionawr 2005, fe dynnodd Wynn Thomas ein sylw at ddylanwad anhysbys Borges ar R. S. Thomas 'yn ystod ei ddegawdau olaf'.1 Mae'n drywydd gwerth ei ddilyn. Fe gynhyrchodd ffatri meddwl Borges lenyddiaeth unigryw, gwaith a haeddai, yn nhyb nifer, y Wobr Nobel nas cafwyd. Os oes gan rywun awydd i gael hyd i'r ffeithiau ynglyn â Borges, cofiant diweddar yr Athro Edwin Williamson o Rydychen yw'r brif storfa.2 O ran manylder, nid oes gwell. Beth ddaw i'r golwg? Llenyddiaeth, gwleidyddiaeth a chariad. A'r mwyaf o'r rhai hyn yw cariad. Yr hanes yn fras: ganwyd Borges yn Buenos Aires yn 1899. Ar ddwy ochr y teulu yr oedd arwyr amlwg a milwrol wedi chwarae eu rhan yn nhwf yr Ariannin yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Yn eu cysgod, teimlai Borges, o'i blentyndod, ei fod yn greadur annheilwng. Fe'i cadwyd gartref o'r ysgol am rai blynyddoedd; pan aeth i'r ysgol yn y diwedd, fe'i camdriniwyd gan y bechgyn eraill. Symudodd y teulu i Genefa, a'r crwt yn ei arddegau ac yn anghyfarwydd â Ffrangeg. Ar ôl cyfnod yn Ewrob (Sbaen a'r Swistir) fe ddychwelodd y teulu i'r Ariannin yn 1921 ac yno, heb grwydro o gwbl ymhell dros y ffin, y treuliodd Borges ei ddyddiau nes iddo ymweld â'r Unol Daleithiau yn y chwe degau, bellach wedi dod yn adnabyddus ar ôl cyd-ennill gwobr ryngwladol (The International Publishers' Prize) gyda Samuel Beckett. Dan ddylanwad cylchoedd 'symbolist' llenyddol yn Sbaen, dyma Borges yn dechrau barddoni gan geisio hefyd hybu diwylliant avant- garde llenyddol Buenos Aires. Ond fel awdur storïau, ffugchwedlau a ffantasi metaffisegol, chwareus, dwys-ingol, y gwnaeth Borges ei enw. Y cyfan, mae'n debyg, ar draul iachawdwriaeth. Nid yw awdur y cofiant yn celu rhyw lawer oddi wrth y sawl sydd am wybod pa fath o iachawdwriaeth geisiai Borges. Dyma wr a welai ei waith a'i yrfa yn nhermau Dante ar drywydd Beatrice. Os nad yw cariad yn dwyn