Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Anterliwt Y Brenin Dafydd Perthyn dau hynodrwydd i'r anterliwt a adwaenir wrth yr enw YBrenin Dafydd} Yn y lle cyntaf, y mae a wnelo, fel yr awgryma'r disgrifiad ar wynebddalen y copi a ddiogelwyd Enterlut, Neu, Ddanghosiad o'r Modd y darfu i'r Brenhin Dafydd odinebu efo Gwraig Urias' â deunydd a godwyd o'r Beibl. Dywed yr un tudalen wrth y darllenwyr mai cywaith yw'r anterliwt dan sylw; fe'i lluniwyd gan Huw Jones Llangwm a Siôn Cadwaladr o'r Bala. I O'r ddau hyn Huw Jones yw'r ffigur amlycaf.2 Rhestrir yn A Bibliography of Welsh Ballads J. H. Davies ryw gant o'i gerddi a ymddangosodd mewn print yn y llyfrynnau baledol y cynhyrchwyd y fath doreth ohonynt yng nghwrs y ddeunawfed ganrif. Canwyd y rhain ar bynciau cyfarwydd. Y mae a wnelo llawer ohonynt â digwyddiadau hynod a chyffrous, yn ddamweiniau ac yn llofruddiaethau; darlunnir agweddau ar fywyd yr oes yn y baledi sy'n ymwneud â chanlyniadau cynaeafau gwael, â'r milisia, ag etholiadau, ag yfed te ac â meddwdod a'i ganlyniadau a gwelir y baledwr yn cyflawni swyddogaeth draddodiadol y bardd wrth iddo ganu clodydd rhai o arweinwyr y gymdeithas. Un o orchwylion y Ffwl yn yr anterliwt fyddai cynghori'r merched. Lluniwyd nifer o faledi ar y pwnc diau fod llawer ohonynt yn perthyn i anterliwtiau a gollwyd erbyn hyn a dyma bwnc arall a ddenodd sylw Huw Jones. Diddanu a wnâi'r faled yn anad dim ond perthynai i'r cyfrwng, fel i benillion y Ficer Prichard, swyddogaeth fwy dyrchafol. Annog ei gyd-ddyn i wella ei fuchedd ac i feddwl am ei ddiwedd a wnâi Huw mewn baledi megis 'Rhybydd i bechaduriaid feddwl am awr angeu, gan ystyried mor frau a darfodedig yw oes dyn'