Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Llonydd Gorffenedig (?) Byth er pan welais y ddau air hyn yng ngherdd anfarwol Bardd yr Haf i bwt o lôn goediog yn Eifionydd, maent wedi fy ngwefreiddio a'm cythryblu a hynny am y rheswm syml nad wyf, er ceisio a cheisio torri'r plisgyn, yn deall eu hystyr yn gyfangwbl. Wrth gwrs, mae gennyf syniad, fel sydd gan bawb arall, o'r ystyr a all fod yn llercian yng ngheseiliau'r dyfyniad. Ond syniad yn unig ydyw, heb ddim pendantrwydd empirig llwyr yn perthyn iddo. A hynny, mi gredaf, am nad oes, yn ôl fy marn i o leiaf, ddim dirnadaeth derfynol nac ychwaith ddim amgyffrediad absoliwt ynglyn ag ystyr y geiriau hyn. Oblegid, mi haeraf nad oes y fath beth â 'llonydd gorffenedig' yn bod, megis hanfod y gellir gosod ein bys arno a chyhoeddi: 'Dyma fo! Barnaf mai ymddangosol yn unig ydyw pob sefydlogrwydd a llonyddwch ac nad oes, yn ôl fy nhyb i, y fath endid yn bodoli â sefydlogrwydd eithaf. Canys symudiant di-baid ydyw nodwedd sylfaenol y Cread megis symudiant y lloer o gylch y ddaear, symudiant y ddaear o gylch ei hechel, symudiant y ddaear o gylch yr haul, symudiant yr haul o fewn ein galaeth, a symudiant y galaethau fyrdd o fewn ymwingfeydd aflonydd a di-ball y bydysawd trwyddo draw. Yn wir, pan gysidrir yr holl symudiadau cydamserol cosmig hyn, doedd ryfedd yn y byd i'r union fardd drachefn sôn am 'echelydd (yn y lluosog!) chwil y sioe.' Barnaf hefyd nad oes cadernid sefydlog bythol a llonydd i adeiladwaith daearegol na daearyddol ein planed, hyd yn oed i na mynydd na chraig. Oblegid y mae'n ddiamau fod y graig (sydd wedi mynnu ers erioed ymfalchïo yn ei chadernid di-syfl) fel popeth arall ar wyneb daear yn symud, pe ond y mymryn lleiaf erioed bob blwyddyn, a hynny yn rhinwedd symudiant parhaol y platiau tectonig tanddaearol anferth sydd yn gyson er yn or-araf yn symud cyfandiroedd ac yn chwydu ynysoedd newydd o grombil yr aig wrth rygnu ar draws ei