Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Myrddin Emrys ayr Bardd o Wlad Pwyl* Fel pob lleiafrif cenedlaethol, mae'r Cymry wedi hen arfer ag anwybodaeth y byd o'u llên a'u hanes. Felly, gall unrhyw gyfeiriad atynt mewn llenyddiaeth arall fod o ddiddordeb. Cerdd gan fardd o wlad Pwyl yw testun yr erthygl hon, bardd oedd fel cynifer o'i gydwladwyr cyfoes yn alltud. Nid yw Tomasz August Olizarowski (1811-1879) ymhlith beirdd mwyaf ei wlad, ond mae o ddiddordeb i'r Cymry oherwydd, rywsut neu'i gilydd, fe ddaeth mymryn o wybodaeth am lenyddiaeth Gymraeg i'w sylw, fel y gwelir yn ei soned 'Ffrydiau Emrys' a gyfieithir yma yn ddigon ryddieithol, ysywaeth. Mewn estron wlad, sef ynys drist y Saeson, Collodd fy ysbryd adenydd lliwgar Paradwys; Fy nghalon, gynt mor fflamllyd, ni thaniai 'mhen. Collais bob delfryd, a'm telyn aeth yn fud. Treuliais fy nyddiau fel un yn ei arch olaf, Heb aur i brynu sylw fy nghyd-ddynion; Unigrwydd oedd fy nhynged, a thristwch mawr Lethai fy meddwl, a diffoddwyd nwyd. Gwaeddais, 'Natur, cynghora fì!' a hi a'm harweiniodd at y man lIe llifai dwy ffrwd Emrys, cariad a chasineb. 'Yf gyda mi,' medd Natur, a'm cymell tua chariad. Ofer fu ufuddhau. Emrys, neu dynged creulon, Laddasai rin y dwr. Yfais heb lesâd. Dylid esbonio mai'r awdur a fu'n gyfrifol am holl ymchwil a ffurf yr erthygl hon, ond mae'r cyfieithydd wedi'i haddasu ar gyfer darllenwyr Cymreig.