Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Adolygiadau Huw Walters, Cynnwrf Canrif agweddau ar ddiwylliant gwerin, Cyhoeddiadau Barddas, 2004, £ 16.00. Y dybiaeth gyffredin ynglyn â Chymru'r bedwaredd ganrif ar bymtheg, yn ôl awdur y gyfrol hon, yw mai gwlad ddi-liw ac anniddorol ydoedd, gwlad a gollodd lawer o hwyl ei harferion traddodiadol o dan ddylanwad anghydffurfiaeth a grym y chwyldro diwydiannol. Fodd bynnag, drwy fanylu ar weithgarwch diwylliannol a llenyddol Cymry'r cymoedd, profa Huw Walters, yn ei ddull difyr, dihafal ei hun, mai cyfnod cynhyrfus, lliwgar yn hanes Cymru, mewn gwirionedd, oedd y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Ffrwyth ei gribinio dyfal yn llythyr- au, cyfnodolion a chyhoeddiadau eraill y cyfnod yw'r gyfrol hon yn bennaf, ac ym mhob ysgrif gwelir holl arfogaeth Huw Walters fel ysgol- haig ar waith; trylwyredd ei ymchwil i'w faes penodedig, ei wybodaeth ddihysbydd ynglyn â hanes y cyfnod ynghyd â'i frwdfrydedd heintus. Â nodweddion cyfarwydd y bedwaredd ganrif ar bymtheg, megis cyhoeddi'r 'Llyfrau Gelision' a thwf y mudiad dirwest yn gefnlen i'w waith, daw Huw Walters o hyd i leisiau rhai o'r cymeriadau hynny yr aeth eu straeon ar ddifancoll yn hanes ein diwylliant dros y ganrif ddiwethaf. Cawn hanes colofnwyr papur newydd megis y diwygiwr cymdeithasol Phylip Griffiths a'r 'Hen Bacman' Thomas Morgan, yn ogystal â gwerthusiad o waith llenorion mwy adnabyddus, megis Amanwy, na chawsant fawr o sylw beirniadol hyd yma. Ymdrinnir ag amrywiaeth helaeth o destunau yn y gyfrol hon, ac yn eu plith mae awduraeth amheus Sherlyn Benchwiban, unig anterliwt sir Gaerfyrddin (a'r 'brasaf ei hiaith o'r holl anterliwtiau'!), diddordebau gohebwyr Y Gwladgarwr a baledi poblogaidd ynghylch yr ymfudo i Awstralia. Y ddolen sy'n eu cysylltu ynghyd yw'r ffaith eu bod oll yn darlunio 'agweddau ar ddiwylliant gwerin', ys dywed isdeitl y gyfrol. Yn aml, cysylltir 'diwylliant gwerin' â diwylliant y Gymru wledig, amaethyddol. Fodd bynnag, perthyn i bob cymuned, boed wledig neu drefol, dlawd neu gyfoethog, ei diwylliant gwerin. Diwylliant ydyw sy'n bodoli ar lefel gymdeithasol ac a ledaenir trwy ddulliau traddodiadol