Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Morgannwg, ac er y dymunwn weld y gogledd a'r gorllewin yn derbyn yr un sylw manwl gan yr awdur, nid yw'r pwyslais deheuol hwn yn wendid o bell ffordd. Nid cysyllt- iadau personol yr awdur â Rhyd- aman yn unig sydd i gyfrif am ei ragfarn o blaid hanes y de wedi'r cyfan, ond ei ddiddordeb yn y modd y datblygodd hunaniaeth a diwyll- iant gwerin newydd ymhlith pobl y cymoedd yn ystod y bedwaredd ganrif ar bymtheg. Fel y nododd yn Canu'r Pwll a'r Pulpud, yr oedd 'undod diwylliannol pendant yng nghymoedd diwydiannol y de' yn deillio o'r ffaith iddynt oll brofi trawsnewid cymdeithasol cyffelyb. Yn Cynnwrf Canrif trafoda Huw Walters brif nodweddion yr undod diwylliannol hwnnw, nodweddion a adlewyrchai barhad rhai o arferion traddodiadol y gymuned Gymreig, dylanwad crefydd, yn ogystal ag amodau byw, pryderon a breudd- wydion trigolion y cymunedau glofaol. Heb os, dyma gyfrol werth- fawr tu hwnt ar ddiwylliant gwerin lliwgar a chymhleth y bedwaredd ganrif ar bymtheg. SIWAN ROSSER Caerdydd Y Mynydd Hwn: deg o ysgrifau am fynyddoedd Cymru, lluniau gan Ray Wood, Llandysul,Gwasg Gomer, 2005, £ 14.99 Môr Goleuni Tir Tywyll Waldo Williams, Delweddau Aled Rhys Hughes, Golygydd Damian Walford Davies, Llandysul, Gwasg Gomer, 2004, £ 14.99. Pan oeddwn i'n blentyn y gwahan- iaeth mawr rhwng llyfrau Cymraeg a llyfrau Saesneg oedd bod llyfrau Saesneg yn llawn lluniau lliw difyr ond mai lluniau du a gwyn diflas (os hynny) oedd ym mron pob llyfr Cymraeg. Roedd hyn yn dân ar fy nghroen, am ei fod yn symbol mor weladwy o safle israddol y Gymraeg. Cofiaf lyfrau lliw yn dod yn fwy cyffredin; cyfieithiadau ar y cych- wyn, gan fanteisio ar blatiau lluniau rhad o wledydd eraill, ac wedyn o dipyn i beth, mwy o lyfrau gwreidd- iol Cymraeg mewn lliw llawn. Erbyn hyn, o ganlyniad i'r chwyldro tech- nolegol, mae pris llyfrau lliw wedi gostwng yn sylweddol ac mae cynhyrchu llyfrau o'r fath wedi dod yn fwy cyffredin, hyd yn oed ar gyfer llyfrau chwaethus i oedolion. O edrych arni felly, mae llyfrau lliw llawn yn y Gymraeg yn rhan o'r broses o normaleiddio'r iaith ac yn arwydd pwysig o'r cynnydd a wnaed. Pan gefais y ddwy gyfrol hon gan Wasg Gomer, teimlais unwaith eto yr hen gyffro o afael mewn llyfrau lliw. Mae'r ddwy gyfrol tua'r un maint ac ar yr un fformat, yn gyfuniad o ffotograffau lliw a thestun, ond dyna'r unig beth sy'n gyffredin rhyngddynt. Mae YMynydd Hwn yn gasgliad o ddeg ysgrif gan ddeg awdur gwahanol, pob un yn sôn am fynydd gwahanol, mynydd o arwyddocâd personol i'r awduron. Mae'r lluniau godidog yn dangos golygfeydd o'r mynyddoedd hyn. Ceir ambell i fachlud trawiadol, ambell i fanylyn cain, ambell i effaith ryfeddol gyda'r golau, ond does dim rhodres yma: y mynyddoedd yr ydym ni'n eu hadnabod a'u caru sydd yn y lluniau, ac os nad ydyn ni'n eu hadnabod eto, maent yn codi awydd cryf ynom i fynd am dro i grwydro ar hyd-ddynt. Dechreuais ddarllen yr ysgrifau yn weddol ddi- hid, gad dybio mai llyfr yn arddull y