Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

y dyfyniadau a'r lluniau: 'Dieithriant y beunyddiol am un funud fach, a'i droi'n bos, ynan sythwelediad, ynan weledigaeth.' Eto i gyd, digon arwynebol oedd y berthynas rhwng lluniau a dyfyniadau, gan ddibyn- nu'n aml ar gysylltiadau geiriol syml. Er enghraifft, gyda'r dyfyniad 'Beth yw byw? Cael neuadd fawr Rhwng cyfyng furiau. Beth yw adnabod? Cael un gwraidd Dan y canghen- nau', ceir dau ffotograff, un o nenbrennau neuadd ganoloesol, a'r llall o wreiddiau patrymog hen goeden. Gyda'r dyfyniad 'Mae eigion golygon glas Ac o'u mewn y gymwynas' cawn ffotograff o fôr sy'n eithriadol o las. Mae'r briodas rhwng y lluniau a'r testun felly yn eithaf anghynnil, heb ychwanegu unrhyw beth newydd i'r profiad. Mae'n bosib y byddai'r gyfrol wedi bod yn fwy llwyddiannus gyda cherddi cyfain yn cael eu dyfynnu. Efallai mai ymgais i oglais cywrein- rwydd y darllenydd oedd y bwriad, a'i annog i droi at gyfrol o waith y bardd, neu fod yna ragdybiaeth fod y darllenydd eisoes yn gyfarwydd iawn â'i waith. Mewn gwirionedd fe'm cawn fy hun yn troi at gopi o gerddi Waldo mewn rhwystredigaeth i weld a oeddwn wedi camddeall rhywbeth, neu i weld a oedd dehongliadau eraill yn bosib. Roedd cyferbyniad llwyr rhwng y ddwy gyfrol felly. Y naill heb fod yn honni pethau mawr amdani ei hun, ac eto yn llwyddo'n ysgubol, gan haeddu dod yn un o glasuron llenyddiaeth Gymraeg yr unfed ganrif ar hugain. Y llall yn gosod agenda uchelgeisiol iddi'i hun, ond yn methu cyrraedd y nod. Gobeith- io, er hynny, na fydd neb yn tynnu gwers o hyn mai cadw o fewn y llwybrau diogel piau hi. Yr unig beth mae'n dangos yw mai antur yw agor pob llyfr ac na fedrwch chi byth ddyfalu beth fydd o'ch blaen ar y daith, hyd yn oed os oes yno luniau lliw i'ch helpu. Hir y parhao felly. DELYTH PRYS Bangor David Kherdian, Y Bwdha: Stori Bywyd DeJJroedig, Gwasg Cwmwl Gwyn, Ashland, Oregon, 2004, 161 tt.,pris$14.95. Llyfr clawr papur a ysgrifennwyd mewn Saesneg eglur ei brint ac atyniadol ei arddull yw hwn. Mae'r awdur, David Kherdian, sy'n frodor o Efrog Newydd, yn adnabyddus fel awdur trigain a mwy o lyfrau, yn cynnwys nofelau, barddoniaeth, llyfrau ffeithiol a llenyddiaeth ar gyfer plant; awdur hefyd yr enillodd ei waith gyfres o wobrau llenyddol iddo. Gyda'r gyfrol o dan sylw ychwanegodd bwnc newydd eto at amrywiaeth ei gynhyrchion, pwnc a feddiannwyd fel arfer gan ysgol- heigion bwdhaidd neu'r astudiaeth gymharol o grefydd. Mae'r geirda a roddir i'r llyfr ar ei glawr cefn yn ei ddisgrifio fel cyflwyniad syml, urddasol i lwybr y Bwdha ac fel cofiant telynegol sy'n addas ar gyfer pobl 0 bob oed, lle y cyfunir elfennau hanesyddol, chwedlonol a dysgeidiaeth y Bwdha yn un naratif cwbl ddeniadol. Yna, gan ddefnyddio ansoddair mwy cymhleth na cheir yn unlle yng nghorff y llyfr, dywedir: 'this telling is mythopoeic rather than dully historical or biographical'. Agorais ei gloriau mewn peth amheuaeth gan feddwl y gallai'r elfen chwedlonol gael chwarae teg llawn