Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

cyfnod pryd y mae pobl yn medru cydymdeimlo â phwyslais y Bwdha ar yr elfennau nacaol a difaol sy'n perthyn i drachwant dynol, peth arall i bobl feithrinwyd yn niwylliant y Gorllewin, gyda'i bwyslais trwm ar yr ego personol, yw meddwl am eu hunain fel casgliad o khandhau, neu ddigwyddiadau cyfnewidiol, heb feddu ar undod personol nac eneidiau, ac heb Dduw yn y byd. Eto i gyd y mae'r stori'n cynnwys sawl awgrym o'r cyfochredd sy'n medru bodoli rhwng rhai agweddau crefyddol ai gilydd led-led ein byd. Er enghraifft, pan sonia David Kherdian am y modd yr oedd gwragedd priod gogledd yr India yn danod i'r Bwdha ei fod ef yn dwyn eu gwyr oddi wrthynt yn fynachod gan achosi diblantrwydd, disgrifìa'r union gwyn a wnaed yn erbyn Bernard Sant gan wragedd Bwrgwyn yn y ddeuddegfed ganrif o Oed Crist. EIFION POWELL Caerdydd Geraint H. Jenkins, (gol), CoJ Cenedl, Ysgrifau ar Hanes Cymru, XXI, Llandysul, Gwasg Gomer, xii, 199tt., £ 8.50. Dilynir yr un patrwm yn y gyfrol hon ag a wnaed yn yr ugain cyfrol blaenorol yn y gyfres CoJCenedl, sef cyflwyno chwe ysgrif ar thêmau amrywiol yn hanes Cymru. Dengys y rhestr o'r ysgrifau a ymddangosodd yng nghyfrolau XI-XX, a luniwyd gan Dr. Huw Walters ac a gyhoeddir ar ddiwedd y gyfrol hon, ehangder a chyfoeth yr astudiaethau a ymddangosodd eisoes mewn cyfres sydd wedi ennyn a chynyddu diddordeb yn ein hanes. Un o ragoriaethau'r gyfres yw cyflwyno ffrwyth ymchwil ddiwedd- ar ar y pynciau dan sylw, fel y dengys yr adrannau 'Darllen Pellach' sydd yn dilyn yr amrywiol ysgrifau. Nodir yn y llyfryddiaeth ar ddiwedd ysgrif Barry J. Lewis gyfrol ddiweddar yr awdur ar y bardd Gruffudd ap Maredudd ap Dafydd. Yn yr astud- iaeth ar lawysgrifau a barddoniaeth grefyddol y ganrif honno disgrifir ef yn 'fardd crefyddol amlycaf y bedwaredd ganrif ar ddeg'. Tynnir sylw at bwysigrwydd y traddodiad llafar ar gyfer cyflwyno barddon- iaeth, a'r gwahanaeth sylweddol rhwng yr ymateb yn y cyfnod hwnnw i'r cerddi a drosglwyddwyd yn llafar â'n un ni heddiw sydd yn ddibynnol ar y llawysgrifau a fu'n gyfryngau i'w diogelu. Ysgrif arall sy'n ymwneud â hanes crefyddol yr Oesoedd Canol yw un Karen Stôber o'r berthynas rhwng noddwyr â thai crefydd. Cyflwynir enghreifftiau o ddisgrifiadau myn- achlogydd, abatai a lleiandai manwl gan feirdd megis Guto'r Glyn, Tudur Aled a Gutun Owain. Y mae'r gyfrol hon eto, megis y lleill yn y gyfres, yn cwmpasu ystod eang o ran thêmau a chyfnodau hanesyddol, gyda'r testunau yn ymestyn o astudiaethau canoloesol Barry J. Lewis a Karen Stôber hyd at ymdriniaeth Gerwyn Williams o'r tensiynau a ddatblyg- odd yn ystod rhyfeloedd y Falklands Malvinas yn 1982. Er yr amrywiaeth helaeth, y mae cysylltiad rhwng rhai o'r thêmau a drafodir, megis y pwyslais a roddwyd ar noddwyr yn ysgrifau Karen Stôber a Stephen K. Roberts. Yn ei ysgrif ar lygredd gwleidyddol yn Ne Cymru, 1600-1660 dangosodd Stephen K. Roberts sut yr oedd John Byrd, casglwr tollau porthladdoedd Môr