Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

yn y gyfrol arbennig hon i gyflwyno teyrngedau i'r tri am ddiogelu cof ein cenedl, a gosod ar yr wyneb-lun ffotograffau ohonynt, ac ar y clawr atgynhyrchiad o bortread lliw Glanmor Williams gan yr arlunydd John Roberts. Trwy gyfrwng yr ysgrifau amrywiol llwyddwyd yn y rhifyn hwn i gynnal y safonau uchel a osodwyd eisoes, ac i ychwanegu at y cyfraniad sylweddol a wnaed eisoes i gyflwyno yn ddeniadol hanes ein treftadaeth yn y gyfres CoJ Cenedl sy'n parhau i apelio yn flynyddol at Gymry Cymraeg darllengar. D. HUW OWEN Aberystwyth Gerwyn Wiliams, Tir Newydd: Agweddau ar Lenyddiaeth Gymraeg a'r Ail Ryfel Byd, Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2005, x + 309 tt., £ 15.99. Yn nhudalennau olaf cyfrol hanesyddol a beirniadol Gerwyn Wiliams tynnir sylw at topos sydd fel ffrâm am lenyddiaeth rhyfel yr ugeinfed ganrif. Yn 1921 soniodd Cynan gan gyfeirio at rai o agweddau aflednais y Rhyfel Mawr nad oedd "geiriau Cymraeg am bethau sydd mor groes i natur y Cymro". Ac yn 1978, nododd Siôn Eirian, gan gyfeirio at gyflafan yr ugeinfed ganrif gyfan, fodolaeth "[pethau] nad oes gennym ni yng Nghymru eiriau amdanynt". Ond rhwng cloriau yr astudiaeth yma mae tystiolaeth am filoedd lawer o eiriau Cymraeg gysegrwyd i'r Ail Ryfel Byd a materion cysylltiedig. Er gwaethaf pob amheuaeth o iaith, arddengys yr astudiaeth ardderchog hon fel y symud cysgod rhyfel yn gyson ar orwel y gwybod a'r isymwybod; ac y mynna'n barhaus gael mynegiant, waeth pa mor amherffaith. Yn gyntaf, mae 'Trawsolwg' cynhwysfawr hanesyddol a damcan- iaethol yn tynnu sylw at wahanol agweddau neilltuol Ail Ryfel Byd y Cymry. Mae'r ail bennod yn ym- wneud â barddoniaeth a myfyrdodau Alun Llywelyn-Williams wedi ei brofiadau yn y fyddin. Os gwrthodai cyn y rhyfel draddodiadau hyn llenyddiaeth Gymraeg, parodd rhywbeth ym mhrofiad ysgytwol y llygad-dyst yma iddo droi yn ei ôl at y traddodiad yn ei gerddi. Yn y drydedd bennod trafodir barddon- iaeth 1940-1960, trwy waith milwr, Elwyn Evans; caplan i'r lluoedd arfog, R. Meirion Roberts; comiwn- ydd mewn carchar am wrthwynebu'r rhyfel, T. E. Nicholas; a heddychwr, Waldo Williams. Trin y bedwaredd bennod ryddiaith a drama 1940- 1960, gan Melville Richards, cyn- aelod o'r gwasanaethau cudd; Caradog Pritchard a John Ellis Williams fu yn y lluoedd arfog; John Gwilym Jones a'i ddrama LleMynno'r Gwynt; T. M. Basset a'i nofel antur Dianc; a Brad Saunders Lewis. Cloir yn gyfrol gan ryddiaith 1960-2000, peth ohoni'n nofelau er gan William Hydwedd Boyer a Martin Davis. Mae'r rhelyw yn hunangofiannol, sef gwaith Glyn Ifans, Ifan Parri, David Elis Roberts fu'n gaeth yn y Dwyrain Pell, Selyf Roberts fu'n garcharor gan yr Almaenwyr, a John Elwyn Jones. Yn olaf, ceir pennod ar farddoniaeth 1960-2000 gan Gwyn Thomas, Alan Llwyd a Siôn Eirian. Trafodir pob awdur yn ei dro, a'i osod mewn perthynas â thradd- odiadau mwy eang llenyddiaeth Gymraeg. Gellid darllen pob adran felly fel ysgrif unigol ar yr awdur mewn cwestiwn. Yn ogystal, mae