Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gerwyn Williams yn manteisio ar ei astudiaethau unigol i godi cwest- iynau damcaniaethol mwy eang fel y bo'n addas. Er enghraifft, mae barddoniaeth wleidyddol T. E. Nicholas yn agor y drws ar y drafod- aeth fwy ar werth a defnydd llenyddiaeth engagée; a barddoniaeth Alun Llywelyn-Williams ar y gwaith o geisio adnewyddu iaith ar ôl ei chamdrin mewn erchyllterau. Yn wir, dyma thema ganolog y dychwela'r gyfrol ati dro ar ôl tro, sef cyfyng-gyngor dirdynnol iaith yn wyneb rhywbeth ymddengys y tu hwnt i fynegiant, neu sy'n peri i fynegiant ymddangos yn ffuantus neu'n sinigaidd. Felly, yn ogystal â bod yn astudiaeth o lenyddiaeth benodol, mae'r llyfr hefyd yn drafod- aeth estynedig ar hon, problem ddwysaf celfyddyd ar ôl 1945. Ynghlwm â'r cwestiwn yma mae hefyd drafodaeth ddiddorol o oblygiadau moesol a ieithyddol gwybodaeth am yr Holocost a thrafod craff ar y defnydd dadleuol o'r Holocost fel trosiad i ddisgrifio digwyddiadau eraill; er y buaswn wedi croesawu eglurhad mwy manwl o'r ffyrdd cymhleth yr oedd yr Holocost a'r Ail Ryfel Byd yn cyd- gyffwrdd yn hanesyddol ac eto hefyd yn ffenomena gwahanol. Mae'r awdur i'w ganmol yn enwedig am gyflwyno rhychwant o destunau mor fendigedig o eang; ac am drafod gyda'r un difrifoldeb awduron cyfarwydd, a'r rheiny nad ydynt yn ganonaidd o gwbl. Ceir yr un diffyg rhagfarn arloesol wrth drafod y ddrama neu'r bryddest fawr ochr yn ochr â ffurfiau traddodiadol llai eu bri megis nofelau antur neu'r dyddiadur. Daw'r fenter yma â deunydd rhyfeddol o amrywiol i'r amlwg. Mae'n agor i fyny bynciau annisgwyl yn y traddodiad Cymraeg, er enghraifft homoerotiaeth rhwng milwyr neu gyffes agored am hwyl ac antur bod yn y lluoedd arfog; a chymeriadau anghonfensiynol fel John Elwyn Jones a'i "anturiaethau James Bondaidd [.] yn cyflwyno Cymro deinamig, rhywiol, gweith- redol yn ennill y dydd yn hytrach nag yn protestio'n egwyddorol ond yn aflwyddiannus". Wedi dweud hyn, erys rhai meysydd tabw. Er enghraifft, tra'r atgoffa'r bennod gyntaf ni am y gwirionedd pwysig y gellir dychmygu rhyfel fel profiad dyrchafol ac y gall lladd ddod yn fath o bleser, ni thramgwydda'r un o'r awduron yma y ffin honno. Mi ellid bod wedi llunio'r astud- iaeth yma yn wahanol wrth gwrs, er enghraifft yn thematig yn hytrach na bob yn awdur, er mwyn olrhain yn fwy penodol batrymau a naratifau mwy ar hyd y ganrif. Ond astudiaeth arall fuasai honno. Bydd y llyfr trylwyr, pwysig a gwerthfawr yma o ddiddordeb mawr i ysgolheigion, myfyrwyr ac unrhyw ddarllenwyr eraill sydd â diddordeb mewn llenyddiaeth neu hanes diwylliant yr ugeinfed ganrif yng Nghymru. MERERID PUW DAVIES Llundain Gwyneth Lewis, Chaotic Angels: poems in English, Tarset, Bloodaxe Books, 2005, ISBN 1 85224 723 1, 192 tt., £ 9.95. Mae cyfrol newydd Gwyneth Lewis, Chaotic Angels, casgliad sy'n dwyn ynghyd holl gerddi ei thair cyfrol Saesneg, yn crynhoi dros ddegawd o farddoni yn yr iaith Saesneg. Mae'n gasgliad amserol gan fod gwir angen gwerthusiad o'i gwaith hyd yma yn y