Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

between each word and its matching thing, so my mind's a junk shop of where I've been. I'll never know now what I really mean. Mewn cyn lleied o eiriau mae'n anodd cyfleu pwysigrwydd barddon- iaeth Saesneg Gwyneth Lewis. Mae ffresni'r llais a'r nodyn chwareus amlwg yn sicrhau ei phoblogrwydd rhynglwadol. Ond mae'r cerddi ar eu gorau hefyd yn cyfleu goddefgarwch a dysg eang sy'n angenrheidiol yn y byd sydd ohoni ac a oedd yn ei gwneud yn ddewis perffaith ar gyfer ein bardd cenedlaethol cyntaf. Yn ei cherdd fawl i'r bardd Joseph Brodsky dywed: each poet is a walk-in heart filled with world's whooshing. (o 'The Pier') Ni allaf feddwl am eiriau gwell i ddisgrifio rhinweddau pennaf ei gwaith. RHIAN REYNOLDS Pen-y-bont ar Ogwr Y Crochan, fersiwn o ddrama Arthur Miller, The Crucible gan John Gwilym Jones, Caerdydd, UWIC, 2005, £ 4.99. Hamlet William Shakespeare, trosiad Gareth Miles a Michael Bogdanov, Caerdydd, UWIC, 2005, £ 4.99. Mae cyhoeddi'r ddwy gyfrol hon yn ddigwyddiad i'w groesawu'n fawr. Dyma ddwy ddrama sy'n haeddu eu statws fel clasuron, y naill yn deillio o ganol yr ugeinfed ganrif a'r Hall 0 ddechrau'r unfed ar bymtheg; a'r naill fel y llall yn affwysol gyfoes a iasol o amserol ar ddechrau'r unfed ganrif ar hugain. Ceir yn y naill a'r llall bortread grymus o gymdeithas dan fygythiad enbyd i'w sadrwydd llywodraethol, a thrafodaeth theatrig bwerus o beryglon a chost yr ym- drech i ddiwallu'r awydd gynhenid, tybed? i weithredu'n gyflawn mewn byd llygredig. Yn hynny o beth, mae'r naill a'r llall yn ddam- hegion ar gyfer yr oes sydd ohoni. Mae Y Crochan gan Arthur Miller yn alegori hanesyddol erchyll ei hergyd i ni heddiw, yn oes y 'Rhyfel ar Derfysgaeth', He gwelir grymoedd ymwthiol, adweithiol yn mynnu'r hawl i ymosod ar ryddfreiniau'r dinesydd cyffredin er `lles y gym- deithas'. Ond mae ergyd y ddrama hon yn un ddeublyg heddiw, yn wleidyddol a theatraidd, am ei bod yn mynnu trin yr ymchwydd adweithiol hwn fel deunydd trasig yn gwbl groes i'r duedd gyfoes (mewn ffilmiau dogfen pwerus megis Fahrenheit 9/11, er enghraifft) i drin y cyfan yn ddychanol, fel deunydd trasicomig. Ys dengys Miller, nid mater i chwerthin yn ei gylch yw ymosodiad llywodraeth ar ei phobl ei hun, na mater ychwaith i ysgogi'r difaterwch nihilistaidd hwnnw sy'n datgan fod llygredigaeth y drefn lywodraethol yn anochel; yn hytrach, mater ydyw i wylltio yn ei gylch, i frwydro yn ei erbyn, i fynnu'i ddatgelu. Ond yn gall, gymedrol felly. Y broblem fawr yn y Salem a bortreadir gan Miller yw'r ffaith fod yr awdurdodau yno wedi ymroi i drafod holl weithred- oedd ei phobl yn nhermau'r drwg a'r da, a gweld eu hunain fel cyfrwng uniongyrchol i'r frwydr fawr rhwng y cadwedig rai a byddinoedd cudd- iedig y Fall. Mae'n gymdeithas sydd wedi'i dal dan ormes ecstatig y ddelfryd o ymberffeithiad. Mae'n braf gweld cyfieithiad John