Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Eryn M White, 'Praidd Bach y Bugail Mawr': Seiadau Methodistaidd De-Orllewin Cymru 1737-50. Llandysul, Gomer, 1995. xi + 243 tud. Clawr papur. £ 12.95. ISBN 1-85902-104-2. Nid pob traethawd ymchwil sy'n esgor ar lyfr mor loyw a defnyddiol a hwn. Y mae'r astudiaeth yn canolbwyntio ar ardal gyfyngedig, hen sir Gaerfyrddin ynghyd a gwaelod sir Aberteifi a gogledd Penfro, ac ar y cyfhod rhwng 1737 a'r Ymraniad yn 1750; ond fe gedwir y cefhdir cyflredinol mewn golwg drwy gydol y gyfrol ac fe ellir ei darllen fel arweiniad diogel i ddyddiau cynnar Methodistiaeth yng Nghymru. Camp Dr White yw gwau'r wybodaeth a gasglodd o'r ffynonellau gwreiddiol a chynnyrch ei darllen eang yn batrwm manwl ac argyhoeddiadol. Ar brydiau, y mae'n rhaid cyfaddef, y mae hyn yn arwain i gryn fesur o ailadrodd [gwrthodiad Nicholas Claggett i ordeinio Harris, perthynas yr Anghyddffurfwyr a'r Methodistiaid yn y blynyddoedd cynnar, y gwahaniaeth agwedd at y seiadau yn y trefi ac yng nghefn gwlad] ond canlyniad cadarnhaol hyn yw y gellir darllen pob pennod fel cyfanwaith annibynol. Yn y bennod ar leoliad y seiadau fe gawn restrau manwl gyda mapiau, ond fe gwflwynir y ffeithiol gyda dadleuon ymarferol i egluro twf y seiadau mewn mannau arbennig: cyflwr y ffyrdd, addasrwydd y seiat ar gyfer cymunedau bychain gwasgaredig, osgoi erledigaeth drwy gyfarfod ar gyrion pentrefi mewn ffermdai anghysbell, gwendid y gofal eglwysig mewn rhai plwyfi. O'r penodau eraill Arweinwyr a Chynghorwyr, Aelodaeth y Seiadau, Natur Apel y Mudiad, Disgyblaeth a Threfh, Treialon ac Erlid yr un sy'n ceisio dadansoddi natur yr aelodaeth yw'r gwir newyddwaith. Fe fu Dr White yn olrhain ewyllysiau aelodau'r seiat ac fe ddaeth o hyd i naw ar hugain y gellir bod yn weddol sicr ohonynt. Yna fe aeth ati i gymharu'r rhain a phatrwm cyflredinol ewyllysiau mewn unarddeg o blwyfi a chan sylweddoli, wrth gwrs, mai pobl weddol gysurus eu byd oedd yn fwyaf tebygol o lunio ewyllys. Canolrif gwerth yr eiddo yn y mwyafrif o'r plwyfi oedd tua £ 20, swm tebyg i'r canolrif o £ 19.9.0 ar gyfer aelodau'r seait, tystiolaeth sydd, yn ei geiriau hi, "yn cadarnhau nad o blith rhengoedd mwyaf distadl cymdeithas y denai y mudiad ei aelodau yn bennaf, ond a blith pobl fwy canolig eu sefyllfa. Pobl a rhywfaint wrth gefh ac yn meddu ar farn annibynnol oedd mwyafrif aelodau'r seiadau." Diddorol yw sylwi ar ddau gwell eu byd na hynny, hyd yn oed: Mary James, Cil-y-cwm, gweddw, yn gadael £ 1030 a John Thomas, Mathri, gwr bonheddig, yn gadael £ 686.16.0.