Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

pluralists than debtors to improve their parsonages. The final chapters trace the history of a parish, Radyr, which was served by 'horse curates' for much of the eighteenth century and of St Michael's College, Aberdare, which was founded as a Tractarian institution. Occasionally this reviewer wanted interpretations of motives that incorporated revisionist views of Church history. But this is a quibble. For the most part, this is a readable, engaging and valuable collection of essays. WILLIAM GIBSON Basingstoke College of Technology Y Fywiol Ffrwd: Bywyd a Thystiolaeth Bedyddwyr Cymru (1649-1999) Gol. D. Densil Morgan. [Abertawe, Gwasg Ilston, 1999]. pbk. 89 pp. Cyhoeddwyd y gyfrol hon gan Undeb Bedyddwyr Cymru fel rhan o ddathliadau'r enwad o dri-chan-mlwyddiant-a-hanner y dystiolaeth Fedyddiedig yng Nghymru. Fe'i croesawir yn fawr gan bawb sy'n ymddiddori yn hanes Ymneilltuaeth yng Nghymru-brwydrau'r enwadau am eu hawliau a'u rhyddid yn erbyn y sefydliadau crefyddol a gwleidyddol. Mae'r gyfrol yn ddiddorol a dadlennol o'r modd y ffrydiodd y gwahanol safbwyntiau diwinyddol i fod yn ffrwd fywiol o dystiolaeth yr enwad. Golygydd y gyfrol yw'r Dr. D. Densil Morgan; D. Hugh Matthews a John Rice Rowlands yw awduron y bennod gyntaf ('O'r dechreuadau hyd at sefydlu'r Undeb') a Gareth Watts sy'n gyfrifol am yr ail bennod ('Yr Adran Gymraeg, 1866-1999') gyda'r Golygydd yn cloi'r gyfrol yn y drydedd bennod ('Bedyddwyr Cymru a'r mileniwm newydd'). Diolchwn i'r Golygydd a'i gydawduron am ddod a safbwyntiau Bedyddiedig i Ymneilltuaeth ar adeg trafod sefydlu Eglwys Unedig Rydd i Gymru. Yn y rhan helaethaf o'r llyfr rhoddir braslun o hanes yr enwad yn cynnwys ffurfio'r eglwysi cyntaf; sefydlu'r Undeb yn 1866; y datblygiadau a'r cyfundrefnau o fewn yr enwad; cronfeydd a mudiadau a fu'n rhan o beirianwaith y Bedyddwyr gan ddiweddu gyda'r her i'r enwad wrth gamu i mewn i'r mileniwm newydd. Yn y bennod agoriadol, dywedir bod gan yr enwad ei hunaniaeth ei hun yng Nghymru er iddo dyfu o'r un gwreiddyn a Bedyddwyr Lloegr, gyda chymdeithas o Fedyddwyr yn y Canolbarth cyn sefydlu eglwys Ilston gan John Miles yn 1649. Yn ogystal a hyn, rhoddodd Miles sylfaen ddiogel i'r eglwysi cynnar drwy ei drefn eglwysig (bresbyteraidd) gan ddefnyddio deddfau a basiwyd adeg y Weriniaeth, er budd tystiolaeth y Bedyddwyr yng Nghymru. Calfinaidd oedd prif bwyslais y Bedyddwyr cynnar, er y ceid gwahanol safbwyntiau diwinyddol yn eu plith, gyda'r dosbarthiadau yn oddefgar o'i gilydd, gan gadw eu hunaniaeth arbennig, ond heb golli goddefgarwch tuag at yr enwadau eraill ar 61 Deddf Goddefiad 1689. Darllenwn am eu cred mewn cymundeb caeth; arddodiad dwylo; llywodraeth yr eglwysi; y weinidogaeth a'i chynhaliaeth; perthynas eglwysi a'i gilydd drwy'r Cymanfaoedd; pwysigrwydd a hawliau'r gynulleidfa leol. Bu'r cyfryw yn gyfraniad gwerthfawr i Ymneilltuaeth Cymru. Wrth son am dyfiant yr enwad, cyfeirir at ddatblygiadau diwydiannol a