Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

DYDDIADUR WILLIAM THOMAS 6 LANFIHANGEL- AR-ELAl1 gan Yr Athro G. J. WILLIAMS, M.A. UN o'r dogfennau mwyaf diddorol yn y cruglwyth hwnnw o lawysgrifau sydd yng nghasgliad David Jones, Wallington, yn Llyfrgell Rydd Caerdydd, ydyw copi o ddyddiadur William Thomas, ysgolfeistr o Llannhangel-ar-Elai ('William yr ysgolhaig'), a chan ei fod yn cynnwys many lion hynod am fywyd yn Nwyrain Morgannwg yn ail hanner y ddeunawfed ganrif, nid amhriodol traethu arno yn y cylchgrawn hwn.2 Gwyddom fod dogfennau sy'n ymwneuthur a'r un cyfnod yng nghasgliad Llanover yn y Llyfrgell Genedlaethol, er bod naws y rheini'n bur wahanol i ddim a geir yn y dyddiadur. Carwn bwysleisio un peth. Dylai ein haneswyr Ileol, a phawb sy'n ymddiddori yn hanes Morgannwg, wybod mai yn y rhain y cawn rai o'r defnyddiau pwysicaf i'r neb a gais sgrifennu hanes y sir yn y ddeunawfed ganrif. Ond cyn dechrau disgrifio cynnwys y dyddiadur, rhaid imi, yn gyntaf oil, geisio rhoi rhyw gymaint o hanes William Thomas ei hun. Fel y dywedais, gwr o Lanfihangel-ar-Elai, yn ymyl Sain Ffagan, ydoedd. Dywaid ef ei hun yn rhan gyntaf ei ddydd- iadur (sydderbynheddiw wedi diflannu) mai ar Orffennaf 29, 1727 y ganed ef3. Ni cheir yn y copi o'r dyddiadur sydd yn Haw David Jones ryw lawer iawn o fanylion personol. Ni ddyry enw ei dad- 'Even his name is not known', meddai David Jones, 'probably he was a William Thomas of St. Fagans'. Yn wir, ni ellir profi mai gwr o'r parthau hyn ydoedd, oherwydd dywedir yn y dydd- iadur ar Fai 12, 1764, fod ei gefnder yn dal tir yn Nhrefddyn (neu Trefethin) yn Sir Fynwy, '& Llanhilid' (sef Llanhiledd, yn 61 pob tebyg, yn hytrach na Llanilid ym Morgannwg). Gwyddom pwy oedd mam William Thomas. Yr oedd yn uri o'r Matheuaid, a myn y dyddiadurwr ym mis Medi; 1763, wrth roi hanes teulu a thiroedd y Lewisiaid yn Sain Ffagan a'r cylch, fod un ohonynt wedi prynu lie o'r enw 'ye Green'­'who deluded ye Green from Wm Mathew my great grandfather'. Diddorol sylwi fod gwraig y dyddiadurwr, Ann Thomas, yn byw yn Roughbrook, yn ymyl 'ye Green,' pan wnaeth ei hewyllys ym mis Ionor, 1814. Bu William Thomas yn cadwysgolion mewn mannau fel Llanfihangel- ar-Elai, Saint Andras (yn ymyl Dinas Powys), Sain Nicolas a Sili, a mannau eraill yn y cyffiniau hyn. Yr oedd hefyd yn glerc i Gomisiynwyr y Trethi yn Hwndrwd Dinas Powys, ac yn fesurwr tir. A thrwy gydol ei yrfa, o 1750 hyd ei farw yn 1795, cadwai ddyddiadur, a dyna paham yr ydym heddiw yn cofio am y gwr di-nod hwn. Yn y ganrif ddiwethaf yr oedd ail gyfrol y dyddiadur (1762 — 1795) ym meddiant meddyg o Benarth, y Dr. James Lewis, gwr yr oedd ei deulu wedi byw yn Sain Ffagan a Llannhangel-ar-Elai am genedlaethau, disgynyddion Lewisiaid y Fan a fuasai'n