Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Hanes Cerddoriaeth Cymru: Rhagarweiniad JOHN HARPER Hanes Cerddoriaeth Cymru fydd cylchgrawn Canolfan Uwch- Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru, a sefydlwyd yn ddiweddar fel rhan o Sefydliad Cerddoriaeth Cymru sy'n cael ei ddatblygu gan Brifysgol Cymru, Bangor. Bydd y ddwy gyfrol gyntaf yn cynnwys papurau a draddodwyd yng nghynhadledd agoriadol y Ganolfan a gynhaliwyd ym Medi 1994. Mae'r rhain yn torri cwys eang o ran eu cynnwys a'u hymdriniaeth hanesyddol. Ysgrifeniadau gan Peter Crossley-Holland fydd yn cael y prif sylw yn y drydedd gyfrol tra bydd y bedwaredd yn cynnwys papurau yn ymwneud â materion cysylltiedig â llawysgrif ap Huw o ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg a drafodwyd yn yr ail gynhadledd fis Gorffennaf 1995. Y bwriad yw cyhoeddi cylchgrawn blynyddol ar gerddoreg gan gymryd cerddoreg mewn ystyr eang iawn i gynnwys hanes cerddoriaeth, hanesyddiaeth cerddoriaeth, dadansoddi cerddoriaeth ac ethnogerddoreg. 0 fewn y bwriad eang ceir tri amcan penodol: yr astudiaeth o gerddoriaeth Gymreig; astudiaeth o gerddoriaeth yng Nghymru; a'r astudiaeth o gerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ceir amwyster o fewn a rhwng yr amcanion hyn. Nid yw cerdd- oriaeth Gymreig wedi'i chyfyngu i gerddoriaeth y Cymry o fewn Cymru: mae llawer o Gymry amlwg, yn ddynion a merched, wedi byw a gweithio y tu allan i Gymru; mae tramorwyr wedi gwneud cyfraniadau pwysig o fewn Cymru; ac mae diwylliant a cherddoriaeth Gymreig i'w cael mewn 'trefedigaethau' tramor, Patagonia yn fwyaf arbennig. Mae'r ail amcan, sef yr astudiaeth o gerddoriaeth yng Nghymru, yn cynnwys yr astudiaethau yr ymgymerir â hwy o fewn Cymru, a hefyd yr astudiaeth o weithgaredd cerddorol yng Nghymru. Bydd y cysylltiadau arbennig o agos rhwng llenyddiaeth Gymraeg a cherddoriaeth yn arwain at rai cyfraniadau rhyngddisgyblaethol. Ymgorfforir y nodwedd fwyaf sensitif ac allweddol yn y trydydd amcan: yr astudiaeth o gerddoriaeth drwy gyfrwng y Gymraeg. Ni