Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Yr Alawon Gwerin Cymreig a Osodwyd gan Beethoven: Ymchwiliad Rhagarweiniol BARRY COOPER Efallai yr ymddengys yn rhyfedd fod y cyfansoddwr Almaenig Ludwig van Beethoven wedi llunio gosodiadau o alawon gwerin Cymreig. Y mae'r esboniad i'w gael, yn od iawn, gydag Albanwr, y cyhoeddwr cerdd o Gaeredin, George Thomson (1757-1851). Gwas sifil oedd Thomson wrth ei alwedigaeth, ond yr oedd yn gerddor amatur brwd a chanddo ddiddordeb mawr mewn alawon gwerin. I gychwyn, ymddiddorai'n bennaf yng nghanu gwerin ei wlad ei hun, ond cyn hir lledodd ei ddiddordeb i alawon Iwerddon ac yna i rai Cymru (ac yn y diwedd i rai gwledydd eraill yn ogystal). Yr oedd y pedair cyfrol gyntaf a gyhoeddodd, rhwng 1793 a 1805, yn cynnwys caneuon yr Alban gyda rhai o Iwerddon yn eu plith; dilynwyd y rhain gan dair cyfrol o ganeuon Cymreig ac ychwaneg o gyfrolau Albanaidd a Gwyddelig. Dyddiwyd y cyfrolau Cymreig, bob un ohonynt yn cynnwys rhyw ddeg cân ar hugain, ym 1809, 1811 a 1817.1 Nid ydynt wedi derbyn llawer o sylw gan ysgolheigion, ac nid oes hyd yn oed gyfeiriad atynt yn yr erthygl ar Gymru yn The New Grove Dictionary. Bwriad Thomson oedd diogelu'r holl ganeuon gwerin gorau yn y gwledydd dan sylw, yn fersiwn gorau'r alawon a oedd ar gael a chyda thestunau ardderchog. Yn ei farn ef, difethwyd llawer o alawon gwerin deniadol gan rigymau erchyll, ac felly comisiynodd nifer o feirdd o'r safon uchaf i gynhyrchu penillion newydd, ac yna cyplysodd y rhain yn ofalus a meddylgar gyda'r alawon a gasglodd, fel rheol ar ôl eu harmoneiddio. I gychwyn, yr oedd y rhan fwyaf o ganeuon gwerin yn ddigyfeiliant ond, yn amser Thomson, yr oedd wedi dod yn arfer darparu cyfeiliant llawfwrdd wrth eu cyhoeddi. Fodd bynnag, nid oedd fawr o gamp ar lawer o'r cyfeiliannau hyn, ac yr oedd arno eisiau rhywbeth llawer gwell. Felly, anwybyddodd holl gyfansoddwyr Prydain a throi at rai o'r cyfansoddwyr Ewropeaidd