Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

J. R. Heath (1887-1950): Meddyg Teulu a Chyfansoddwr DAVID R. A. EVANS Ysbrydolodd mynyddoedd, dyffrynnoedd ac arfordir Cymru lawer o gyfansoddwyr Seisnig yr ugeinfed ganrif: bu Elgar, Bantock, Holbrooke, Warlock, Holst a Britten oll yn ymweld â Chymru'n gyson ond ni phenderfynodd yr un ohonynt ymgartrefu yn y wlad. I'r cyfansoddwr proffesiynol ym mlynyddoedd cynnar y ganrif hon, lle anghyfleus i fyw ynddo oedd Cymru. Yr oedd yn bell o brif ganolfannau bywyd cerddorol Seisnig ac 'roedd natur ei daear- yddiaeth yn aml yn gwneud teithio yn araf ac yn anodd. Er bod arweiniad Walford Davies a'i ddisgyblion yn y blynyddoedd rhwng y rhyfeloedd wedi creu chwyldro mewn gweithgarwch cerddorol Cymreig, gwerth ymylol yn unig oedd i'r ymdrechion hyn i gyfansoddwyr a oedd yn byw yng Nghymru. Yr unig ffordd y gallai cyfansoddwyr Cymreig ieuengach fynd yn eu blaen o ddifrif, oedd wrth ymfudo i brif ganolfannau Lloegr lle y gallent geisio hyfforddiant pellach a gobeithio, unwaith y ceid cysylltiadau newydd ym myd busnes cerddoriaeth, y byddai perfformiadau a chyhoeddiadau yn dod i ganlyn hynny. Nid oedd John Rippiner Heath yn enedigol Gymreig ond mae'n gymwys i gael ei alw'n gyfansoddwr 'Cymreig' oherwydd ei berthynas faith â'r wlad, ag Abermo yn arbennig, y bu iddo wasanaethu ei thrigolion mewn sawl maes am dros ddeng mlynedd ar hugain. Ymddengys i'r ardal y bu'n byw ynddi fod yn ysbrydoliaeth iddo ar hyd ei oes ond mae'n debyg i leoliad anghysbell y lIe ei gwneud hi'n ddwywaith mor anodd iddo gadw ei gysylltiadau â chylchoedd cerddorol Seisnig. 'Roedd John Heath yn gyfansoddwr dawnus iawn a ddewisodd, fel Borodin, ddilyn gyrfa fel meddyg tra'n dilyn ail yrfa mewn cyfansoddi. Daeth adeg yn ei fywyd pan mae'n rhaid bod llwyddiant ei gerddoriaeth wedi gwneud iddo ystyried bod yn gyfansoddwr llawn amser ond fe gollodd y cyfle am resymau nad ydynt yn wybyddus i ni heddiw. Yn ystod ei