Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Canu Gorchest MEREDYDD EVANS Mewn cerdd foliant i Madog ap Maredudd mae Cynddelw Brydydd Mawr, tua chanol y ddeuddegfed ganrif, yn cyfeirio at bobl yn casglu ynghyd ar ddydd Calan y tu allan i borth y llys: Yn drwchus o gwmpas llew glew iawn, rhannwr arian disglair, [Yn] gyffro am galennig y mae'r dorf [o'i gwmpas] ar adeg Calan, [Megis] cynnwrf ton fyrlymus ar draeth o gwmpas traed gwylan. Yna, yn glo i'r gerdd, fe'i cawn yn cyfarch y beirdd yn eu mysg, fel hyn: Codwch, cenwch, fe ganaf [innau] â'm cerdd, A mi, feirdd, i mewn a chwi allan. Dichon mai tynnu yr oedd y bardd, yn y fan yma, ar drosiad o ddefod oedd yn hynafol yn ei gyfnod ei hun: herio beirdd eraill i ennill mynediad i'r llys trwy ei drechu ef, Cynddelw, mewn cystadleuaeth brydyddol. A defnyddio ymadrodd diweddarach, eu herio i 'ynnill y ty'. Os felly, dyma'r cyfeiriad Cymraeg cynharaf y gwn amdano at y ddefod. Beth bynnag am hynny yr oedd y math hwn ar gystadlu yn wedd ar yr hyn y gellid ei alw yn ganu gorchest, canu a fu'n rhan o ddifyrrwch y cartref yng Nghymru dros ganrifoedd lawer ac nid oedd rhai o'r cystadleuwyr yn fyr o hawlio awdurdod hynafiaeth dros ymarfer ag ef ar eu hymweliadau â rhai o dai mawr eu broydd ar dymhorau arbennig o'r flwyddyn. Felly yr oedd hi ym Môn yn yr ail ganrif ar bymtheg fel y tystia'r tri phennill canlynol o garol gwirod yn drws a gofnodwyd gan y llanc Richard Morris ar ddechrau'r ddeunawfed ganrif: