Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Bandiau Cymreig y Cyfnod Fictoraidd Diweddar: Chwaeth, Pencampwriaeth ac Agweddau'r Cymmrodorion TREVOR HERBERT Ten men of revolting appearance were approaching from the drive. They were low of brow, crafty of eye and crooked of limb. They advanced huddled together with the loping tread of wolves, peering about them furtively as they came, as though in constant terror of ambush; they slavered at their mouths, which hung loosely over their receding chins, while each clutched under his ape-like arm a burden of curious and un- accountable shape After brief preliminary shuffling and nudging, an elderly man emerged from the back of the group 'We are the silver band the Lord bless and keep you' [he] said in one breath, 'the band that no one could beat whatever but two indeed at the Eisteddfod that for all North Wales was look you.' 1 Y mae'r dyfyniad hwn o ddisgrifiad godidog o fywiog Evelyn Waugh o ymddangosiad cyntaf y band pres yn ei nofel Decline and Fall (1928) yn un o funudau doniolaf y llyfr. Wrth gwrs, y mae'n cynddeiriogi dilynwyr bandiau pres sy'n ystyried ei fod yn rhoi sylwedd i ystrydeb a orddefnyddiwyd eisoes. Ystrydeb a hybwyd gan ddeallusion dosbarthcanol yr oes Edwardaidd yn Lloegr a ddefnyddiai fandiau pres yn ami yn gocyn hitio cyfleus. Yr oedd un arall o'r deallusion dosbarth-canol Seisnig Edwardaidd wrthi ym 1928, sef Mr Thomas Beecham. Wrth annerch clwb cinio yn Leeds disgrifiodd fandiau pres fel 'that superannuated, obsolete, beastly, disgusting, horrid method of music making'.2 Cafodd ei sylwadau gryn sylw ac fe dramgwyddodd cymaint nes esgor ar sylwadau mewn nifer o bapurau cenedlaethol blaenllaw. Ond erbyn 1928 ystyrid bandiau pres eisoes yn isddiwylliant, ymhell o brif ffrwd cerddoriaeth-gelfyddyd Brydeinig. Yr oedd chwaraewyr y bandiau pres hefyd yn sylweddoli eisoes fod eu mudiad yn dechrau mynd ar y goriwaered o'r poblogrwydd enfawr a gyrhaeddodd ei anterth yn y 1890au. Diystyrid y ffaith fod Elgar ar fin ysgrifennu darn ar gyfer band pres a Holst eisoes wedi gwneud hynny. Edrychid ar