Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Teulu o Alawon Gwyddelig/Cymreig PHYLLIS KINNEY Y mae dylanwad alawon Gwyddelig ar gerddoriaeth draddodiadol Gymreig yn y bedwaredd ganrif ar bymtheg yn amlwg, er nad yw llawn mor gryf â'r dylanwad Gwyddelig ar alawon Seisnig. Cynhwysai ynnau cynnar Cylchgrawn Cymdeithas Alawon Gwerin Cymru (CCAGC) ganeuon Cymreig ag alawon a darddodd o 'Kate Kearney' a 'The Pretty Girl Milking Her Cow' yn ogystal ag alawon eraill a ddisgrifir yn 'benodol Wyddelig'. Ond ni allai'r un o'r rhain gystadlu mewn poblogrwydd â'r alaw a adwaenir yn gyffredinol fel 'St. Patrick's Day in the Morning'. Nodwyd un ar hugain o wahanol amrywiadau o'r alaw yng Nghymru ers blynyddoedd cynnar y ganrif ddiwethaf, a dangosir y rhain ar dudalennau 118-19 uchod. Gellir rhannu'r amrywiadau yn dri grwp: (i) tair cainc offerynnol mewn rhythm llifeiriol jig 6/8 (sef 2, 3, 4); (ii) pymtheg alaw ar arddull cân sy'n addas i'w defnyddio gyda geiriau, dwy ohonynt wedi'u seilio ar hanner yr alaw Wyddelig yn unig (5-19); (iii) tair emyn-dôn (20, 21, 22). Er bod Edward Bunting wedi nodi'r alaw Wyddelig ym 1792, nis cyhoeddodd tan 1840 ac erbyn hynny yr oedd eisoes yn boblogaidd yng Nghymru. Y mae chwech o'r fersiynau Cymreig yn gynharach na chyhoeddiad Bunting: un 0 lawysgrif telyn (2) sy'n agos iawn at fersiwn Bunting; tair alaw o gasgliadau o ganeuon gwerin a luniwyd rhwng 1817 a 1825 (11, 12, 13); a dwy emyn-dôn a nodwyd cyn 1829 (20, 21). Cyhoeddwyd y drydedd emyn-dôn ym 1840, tua'r un adeg ag y cyhoeddodd Bunting 'St Patrick's Day'. Cyhoeddwyd tri o'r amrywiadau Cymreig (14, 15, 19) yng Nghymru yng nghanol y 1840au a chenid un (10) i eiriau baled a ysgrifennwyd y mae'n debyg yn y 1840au. Y mae'r ddau amrywiad telyn arall (2, 3) yn dyddio o'r 1850au, tua chwarter canrif yn ddiweddarach nag amrywiad 1, ond y mae'r ddau yn perthyn yn glòs i alaw Bunting. Daw dwy alaw (16, 17) 0 lawysgrif a anfonwyd i mewn i