Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Arglwyddes Llanofer a'r Delyn Deires RACHEL LEY Augusta Hall, Arglwyddes Llanofer, 'Gwenynen Gwent':1 tri enw ond un wraig, a'r tri enw'n dweud tri pheth gwahanol iawn wrthym am y foneddiges arbennig hon a wnaeth gymaint i arbed telyn deires y Cymry rhag mynd i ddifancoll. Er na dderbyniodd deitl Arglwyddes tan 1859, yr oedd eisoes yn perthyn i fyd y meistri tir bonheddig. Gwnaeth ddefyndd o'r statws hwn ar hyd ei hoes, yn enwedig wrth iddi fynnu ei ffordd ei hun. Arddangosir agwedd y Gymraes yn ei chymeriad gan y teitl eisteddfodol, 'Gwenynen Gwent' a fabwysiadwyd ganddi ym 1834. Yn olaf, dyma Augusta Hall enw priodasol gwraig a deimlai faich 'brad' ei chyd-Gymry ar ei hysgwyddau. Ganwyd Augusta Hall i deulu o dirfeddianwyr Seisnig a ymgartrefodd yn Llanofer, ger y Fenni, Sir Fynwy. Yno y'i ganwyd, yno y treuliodd ei hoes ac yno y bu farw. Er iddi droi yng nghylchoedd Llundain, deuai'n ôl i Lanofer bob tro. Nid yn unig y magwyd hi yn Nhy Uchaf; ond yma yr adeiladodd hi a'i gwr, Benjamin Hall, blasty newydd, Llys Llanofer. Yn ei chartref ailgreodd lys a ymdebygai i hen dai'r uchelwyr, lle cynigid nawdd hael i feirdd a cherddorion. Nid un o'r boneddigesau hynny yng Nghymru a goleddai'r iaith Saesneg a ffyrdd Seisnig yn unig oedd Augusta Hall: bu ganddi ddiddordeb yn yr iaith Gymraeg a thraddodiadau Cymru ers dyddiau ei hieuenctid, a pharhaodd y diddordeb hwn hyd at ei marw, bron i ganrif yn ddiweddarach. Fel llawer o'i chyd-Gymry gafaelodd yn y delyn fel symbol cenedlaethol, ac nid unrhyw delyn, ond telyn deires Cymru. Gorseddwyd y delyn deires yn Llys Llanofer wedi i'r ty gael ei gwblhau ym 1837, a gwnaeth Arglwyddes Llanofer bopeth a fedrodd i hybu a noddi'r offeryn traddodiadol Cymreig hwn. Nid Cymreig, wrth gwrs, oedd y delyn deires yn ei hanfod: daeth yr offeryn o'r Eidal i Brydain yn yr ail ganrif ar bymtheg, ond