Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Desgant Seisnig a Ffynhonnell Theori Cerddoriaeth Frodorol o Gymru'r Oesoedd Canol STEPHEN P. REES Anaml y mae'r rhyngweithiad rhwng theori cerddoriaeth ac ymarfer cerddorol yn un syml ac eglur, boed mewn perthynas â cherddoriaeth y presennol neu'r gorffennol. Yn gyffredinol, mae'r gwaith o astudio theori cerddoriaeth cyn-draddodiadau'r gorllewin wedi dilyn un o ddau lwybr: naill ai'r astudiaeth o ysgrifeniadau damcaniaethol unigol eu hunain, fel cynrychiolaeth o gyflwr gwybodaeth gerddorol yn ystod cyfnod neu gyfnodau penodedig;1 neu ddangos y berthynas rhwng theori o'r fath ac ymarfer cerddorol cyfoes.2 Fodd bynnag, cwyd dwy broblem eu pennau'n syth wrth geisio astudio'r berthynas rhwng cerddoriaeth gynhenid a theori frodorol yng Nghymru cyn y ddeunawfed ganrif: yn gyntaf, prinder y gerddoriaeth sydd ar glawr ac, yn ail, natur llawer o'r gwaith ysgrifenedig ar gerddoriaeth sydd wedi goroesi. Y gerddoriaeth seciwlar gynhenid gynharaf sydd ar glawr yw'r tabl nodiant i'r delyn o Lawysgrif 'Robert ap Huw'.3 Fe'i copïwyd i bob golwg yn 1613 ac mae'n grair o'r traddodiad barddol o farddoniaeth a cherddoriaeth a gynhelid gan nawdd yr uchelwyr ond a oedd yn dirywio bryd hynny. Eisoes, tua diwedd yr unfed ganrif ar bymtheg, roedd ffactorau cymdeithasol ac economaidd yn cydfilwrio i roi terfyn ar strwythurau a hefyd, i raddau llai, ar gynhyrchion y gymdeithas farddol.4 Trosglwyddid barddoniaeth a cherddoriaeth fel arfer ar lafar ac mae'n debygol mai awydd 'to perpetuate knowledge of a moribund art' oedd yn gyfrifol am oroesiad y darn unigryw hwn o gerddoriaeth nodiannol. Gelwid y gelfyddyd hon yn gerdd dant o'i chymharu â cherdd dafod a oedd yn cyfateb iddi mewn barddoniaeth.6 Felly, er mai tua dechrau'r ail ganrif ar bymtheg yr ysgrifennwyd y gerddoriaeth, mae pob rheswm dros gredu fod peth o'i chynnwys yn tarddu o gyfnod sylweddol gynharach nag a gyfleir gan ddyddiad y COpïO.7 Beth, felly, sydd ar gael yn y Gymraeg am theori cerddoriaeth?