Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

'Ailysgrifennwn y Llyfraith': Barddoniaeth y Canu Pop DAMIAN WALFORD DAVIES Down oll â'n rhagfarnau at ganu pop. Down â mwy byth o ragfarnau at ganu pop Cymraeg. Tasg anodd yw cael gwared ar y stigma o israddoldeb a berthyn iddo fel cyfrwng cerddorol a geiriol. Mae'r stigma hwnnw'n prysur gnewian fel rhyw bryf yn y pren hyd yn oed yn ein meddyliau ni, y popwyr mwyaf selog sy'n addoli wrth allor 'yr hollalluog Roc', chwedl Siôn Aled.1 A hyn, waeth pa mor gryf y teimlwn mai perthnasol yw'r cyfrwng, waeth pa mor argyhoeddedig yr ydym fod talent cerddorol a 'llenyddol' ar waith. A dyna'r broblem y dyfynodau hynny sy'n fodlon i'r 'llenyddol' ddod mas i chwarae mig am ennyd gyda'r canu pop, ond nad ydynt yn fodlon i lyrics fod yn 'Farddoniaeth'. Maent yn dal 'Llenyddiaeth' a 'Barddoniaeth' yn eiddigeddus o fewn parchusrwydd élitaidd ac yn pennu ystyr gyfyngedig i'r termau hynny. Rhywbeth ymhell o'r 'poblogaidd', rhywbeth gweledol, ar bapur, mewn du a gwyn ('Pop culture tends to despise the printed word', medd George Melly2), arobryn ar lwyfannau a heb gerddoriaeth yw 'Barddoniaeth' y dyfynodau hyn. Ond mae barddoniaeth yn fwy hylifol na hynny. Diau am ei bod hi'n ymddangos yn rhywbeth siwdaidd i'w wneud y rhoddir cyn lleied o sylw i hanner geiriol y cyfrwng. Ond nid fy mwriad yma yw 'parchuso'r' canu pop ei 'ddofi', a gwarafun iddo ei statws 'amgen' ond ennyn parch i'w 'Farddoniaeth-bob-dydd' (teitl casgliad diweddaraf Neil Rosser a Nic Blandford). Nid fy mwriad yw diffinio 'Barddoniaeth' a 'Llenyddiaeth', chwaith i raddau maent yn fater o chwaeth ond yn hytrach eu di-ffin-io. Nid yw ein tueddiad i ddidoli 'Barddoniaeth' a 'Chanu Pop' yn ôl safonau yr ydym yn eu derbyn yn ddifeddwl ond yn parhau'r myth fod y canu pop yn gyfrwng llwyr wahanol i'r 'Llenyddol', nid yn unig o ran ei natur ddeuol sylfaenol ond o ran y posibiliadau sy'n agored iddo, yr hyn y gall ymgyrraedd ato. Mae'n wir, fel y dywed Steve Eaves yn ei ragair i'r casgliad