Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Golwg Gerallt Gymro ar Gerddoriaeth PHILIP WELLER Giraldus Cambrensis i roi iddo'r enw Lladin yr adwaenir ef wrtho o'i waith ei hun yn ddiau yw'r awdur cyntaf i wneud mwy na sôn wrth fynd heibio am gerddoriaeth yng Nghymru. Yr oedd yn ddyn cynhyrchiol a phrysur a ddilynodd yrfa yn yr eglwys a gwleidydd- iaeth, gan ddod o hyd i amser ar yr un pryd i feithrin diwylliant deallus sylweddol a'i ymarfer yn greadigol drwy gydol ei oes. Y mae ei gynnyrch llenyddol ac ysgolheigaidd yn helaeth, ac yn hynod am gwmpas ei destunau ac am eglurder ei fynegiant. Ond o'r grwp amrywiol o ysgrifau ganddo aoroesodd, gellir dadlau mai'r gweithiau disgrifiadol am Gymru ac Iwerddon, yw pinacl yr hyn a gyflawnodd.1 Hwynt-hwy yn anad dim arall sy'n ei wneud yn arbennig ymhlith awduron ei gyfnod yn ddeallusol ac yn llenyddol.2 Ond y mae'r un mor rhyfeddol ei fod wedi gadael inni gofnod o'i fywyd ef ei hun, cofiant gwir, dan y teitl De rebus a se gestis. Dyma lyfr a gyflwynir fel adroddiad o'r 'pethau a wnaethpwyd ganddo ef ei hun' neu fel y dywedem ni'n fwy idiomatig 'ynglyn â gweithredoedd a gorchestion ei fywyd'.3 Fel yr awgryma'r teitl y mae'n ymwneud mwy â gweithredu na myfyrio, ac mae'n sôn am wahanol agweddau ar fywyd Gerallt gydag amrywiol raddau o bwyslais. Rhoddir llawer mwy o fanylion a disgrifiadau o'r gweithredoedd gwleidyddol ac eglwysig a gyfranogodd ohonynt nag o'r munudau personol a myfyrgar. Gellid disgwyl hyn gan rywun sy'n ysgrifennu yn nechrau'r drydedd ganrif ar ddeg, ond y mae'n golled wirioneddol peidio â chael yn De rebus yr hyn a dybiem fyddai'n ddisgrifiad byw o'i blentyndod Cymreig neu o awyrgylch y Lincoln ganoloesol (He yr ymddeolodd i ymroi i'w astudiaethau ysgolheigaidd o 1196 ymlaen a thrachefn o 1207).4 Serch hynny, er nad ymddengys fod gan Gerallt duedd at fewnblygrwydd na hunan-ddatguddiad, y mae'r modd uniongyrchol y daw ei bersonoliaeth allan o lawer darn o'i i waith yn drawiadol, ac mewn ffordd, yn unigryw yn y cyfnod.