Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Esgoblyfr Bangor: Esgoblyfr Arfer Caersallog SALLY HARPER Un llawysgrif litwrgiaidd gyflawn yn unig sydd wedi goroesi 0 esgobaeth ganoloesol Bangor. Dengys arysgrif ar y llyfr y cyfeirir ato fel 'esgoblyfr Bangor' mai ei berchennog gwreiddiol oedd Anian, esgob Bangor, y gellir bellach ei ddyddio'n hyderus i chwarter cyntaf y bedwaredd ganrif ar ddeg. Yn y llyfr ceir testunau, cerddoriaeth a chyfarwyddiadau manwl ar gyfer defodau litwrgiaidd a weinyddir gan esgob: cysegru eglwysi, allorau a mynwentydd; gorseddu a chysegru archesgob; a bendithion arbennig a roddir yn ystod canon yr Offeren ac ar adegau penodol eraill. Mae hefyd yn cynnwys seremoniau sy'n offeiriadol yn hytrach nag yn esgobol yn unig: y defodau ar gyfer diarddel yr edifeirwyr ar Ddydd Mercher y Lludw a chymodi â hwy ar Ddydd Iau Cablyd, yr eneiniad olaf, cludo corff i'r eglwys, claddu a phriodi, ynghyd â grwp o offerennau addunedol. Yn y llawysgrif ceir casgliad sylweddol 0 blaensiant, i gyd wedi eu copïo ar erwydd pedair-llinell, a cheir un addurniad tudalen-lawn ar ffo. 8v o esgob yn bendithio eglwys. Deon a Chabidwl Eglwys Gadeiriol Bangor biau'r llyfr, ond fe'i cedwir yn awr yn Llyfrgell Prifysgol Cymru Bangor; mae Neil Ker wedi llunio crynodeb cynhwysfawr o'i gynnwys a'r manylion paleograffig.2 1 Cefndir esgoblyfrau a'u hastudiaeth 1.1 Astudiaethau hanesyddol o esgoblyfr Bangor Nid yw esgoblyfr Bangor yn llawysgrif hawdd ei lleoli. Ar lefel ffisegol mae ynddi lawer o ruddellau sydd wedi pylu'n fawr a thudalennau coll; mae peth dirgelwch hefyd ynglyn â'i dyddiad a'i tharddiad. Cafwyd cyfeiriadau ati mewn astudiaethau gan