Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Ailolwg ar Philip ap Rhys a'i Gerddoriaeth Organ Litwrgiaidd JOHN HARPER 1 Philip ap Rhys ( f 1.1547) hanesyddiaeth a bywgraffiad Pan ysgrifennodd Thomas Morley ei Plaine and Easie Introduction to Practicall Musicke (1597) rhestrodd nifer o gerddorion yr unfed ganrif ar bymtheg o Gymru ymhlith ei 'awdurdodau'.1 Nid oedd Philip ap Rhys yn eu plith; yn wir ni ddangosodd haneswyr cerdd ddiddordeb ynddo tan y cyfnod ar ôl yr Ail Ryfel Byd, a hynny fel rhan fechan o'r hwb mewn cerddoreg Brydeinig dan arweiniad Thurston Dart, a nodweddwyd â lansio Musica Britannica yn enwedig y golygiadau o gerddoriaeth lawfwrdd ac ensemble Duduraidd a Jacobeaidd. Cyhoeddodd Denis Stevens, a oedd ar y pryd yn ysgolhaig ifanc yn gweithio ar gerddoriaeth lawfwrdd yr unfed ganrif ar bymtheg, yr erthygl gyntaf ar Philip ap Rhys yn Musica Disciplina ym 1952, yn ogystal ag eitemau bywgraffyddol yn y Bywgraffiadur Cymreig (1953 a 1959), ac ym mhumed argraffiad Grove's Dictionary of Music and Musicians (1954).2 Deilliodd ymwybyddiaeth Stevens o Philip ap Rhys o'i astudiaeth o repertoire o gerddoriaeth lawfwrdd ganol yr unfed ganrif ar bymtheg a ddarganfuwyd yn nhair haen gynharaf Llundain, Llyfrgell Brydeinig MS Additional 29996 (a adwaenir o hyn ymlaen fel Add. 29996).3 Codai ei ddiddordeb nid o'r ffaith fod Philip ap Rhys i bob golwg yn Gymro nac o ansawdd ei gerddoriaeth a oroesodd, ond o natur y pum darn a gasglwyd at ei gilydd yn y ffynhonnell. Y mae'r rhain yn ffurfio'r unig enghraifft Brydeinig i bob golwg o genre a oedd yn fwy poblogaidd ar y Cyfandir y pryd hwnnw sef yr Offeren Organ, cerddoriaeth lawfwrdd wedi ei seilio ar blaengan Ordinari'r Offeren a fwriedid fel rheol ar gyfer ei pherfformio alternatim (bob yn ail) gan organ a lleisiau. Er bod arwyddocâd hanesyddol Philip ap Rhys wedi ei sefydlu ym 1952, a'r Offeren Organ wedi ei chyhoeddi mewn casgliad o