Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Henry Brinley Richards (1817-1885): Propagandydd dros Gerddoriaeth Gymreig o'r Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg A. J. HEWARD REES Mae'r ffasiwn o ddifrïo pobl amlwg o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg a diweddarach yn mynd rhagddi'n ddi-atal ac, wrth gwrs, mae'n ddeunydd darllen diddorol. Eto' i gyd, faint bynnag o Fictorianiaid nodedig sydd wedi'u darnio gan eiriau miniog Lytton Strachey a'i olynwyr, mae nifer o ffigurau llai blaenllaw wedi osgoi ailystyriaeth mor lem hyd yma, boed hynny er mantais neu anfantais iddynt yn y pen draw. Yn y rhestr hon gallwn gynnwys y cerddor Cymreig, Brinley Richards, sydd ag ychydig eithriadol wedi'i gyhoeddi amdano ers canrif a mwy, er gwaethaf ei amlygrwydd a'i lwyddiannau sylweddol ar un cyfnod. Gall y sinigaidd eu meddwl honni eu bod yn gwybod y rheswm am hynny. Iddynt hwy, y prif reswm dros ddinodedd presennol y gwr hwn a oedd, yn ôl pob tystiolaeth, yn ddyn trwyadl gymeradwy a 'dymunol', yw'r ffaith i'w fywyd, er nad yn gwbl anniddorol, fod yn amddifad o unrhyw gyffroadau mawr. Gall eraill yn fwy rhesymol honni mai'r gwerth cyffredinol isel a roddwyd ar ei gyfansoddiadau wedi ei farwolaeth sy'n bennaf gyfrifol ei fod wedi ei esgeuluso cymaint. Efallai y bydd y rheswm neilltuol hwn ryw ddydd yn profi'n gywilyddus o annigonol, yn arbennig os gwnawn ni, y rhai sy'n astudio cerddoriaeth Gymreig, ddilyn yr arweiniad a fynegwyd mor huawdl gan Peter Lord yn ddiweddar yn y celfyddydau gweledol a cheisio mynd i'r afael â'r hyn y mae ef wedi'i alw mor gofiadwy yn 'aesthetics of relevance'. Fodd bynnag, mae yna rywbeth i'w ddweud dros ailystyried gyrfa gerddorol Brinley Richards fel ffigwr cyhoeddus pur amlwg ar un cyfnod. Ac mae angen i'r ymdriniaeth honno, o ran ei dylanwadau cymdeithasol a hanesyddol, gael ei chyflawni gennym ni yma yng Nghymru fel ei gwelir yn negawd olaf yr ugeinfed ganrif. I'r diben hwn mae angen i ni gael ein hatgoffa o amlinellau bras hanes ei fywyd. Fe'i ganwyd yn nhref Caerfyrddin yn 1817 (nid 1819, fel a geir