Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Anelu at Arddull Geltaidd Ddilys mewn Cerddoriaeth: Bywyd a Gwaith David Vaughan Thomas (1873-1934) LYN DAVIES Gellir dweud fod David Vaughan Thomas yn un o'r cyfansoddwyr pwysicaf yn y cyfnod o drawsnewid i gerddoriaeth Gymreig, o'r oes Fictoraidd hyd ein dyddiau ni heddiw.1 Nid oedd ei alluoedd wedi eu cyfyngu i gerddoriaeth yn unig. Graddiodd mewn mathemateg cyn troi ei olygon at gerddoriaeth a rhagori fel cyfansoddwr, darlithydd, beirniad ac arholwr (ar ran adran dramor y Trinity College of Music). Roedd hefyd yn fardd talentog, yn ddyddiadurwr treiddgar, yn hyddysg ym marddoniaeth a llên gynnar Cymru, a darllenai'n eang mewn nifer o ieithoedd.2 Wedi iddo raddio yn Rhydychen dysgodd mewn dwy ysgol am gyfnod byr cyn dychwelyd i Gymru ac ymgartrefu yn Abertawe yn y pen draw gyda'i deulu (daeth un o'i feibion, Wynford yn adnabyddus iawn fel darlledwr).3 Gweithio fel cerddor ac athro ar ei liwt ei hun a wnâi Vaughan Thomas a theithiodd yn ehangach nag unrhyw gerddor Cymreig o'r un genhedlaeth. Daeth ei fethiant i gael Cadair Cerddoriaeth Coleg Prifysgol Cymru, Aberystwyth ym 1918 yn cause célèbre o fewn cylchoedd cerddorol Cymreig, a gadawodd hyn gryn ddrwgdeimlad am beth amser.4 Roedd bywyd teuluol a chefndir cymdeithasol Vaughan Thomas yn nodweddiadol o oes Fictoria. Roedd yn fab i Jenkin Thomas o Bontrhydyfen ac Ann Rees o'r Betws, ger Rhydaman yn Ne Cymru. Gweithiai ei dad mewn gwahanol weithfeydd haearn. Mewn cyfnod o ddirywiad economaidd, symudai'r teulu yn gyson gan dreulio cyfnodau byr ym Maesteg, Pontyclun, Llantrisant, Llangennech a Dowlais. Canai Thomas yr harmoniwm er pan oedd yn ifanc iawn, a bu'n ddigon ffodus i dderbyn cyfarwyddyd sylfaenol mewn cerddoriaeth gan Meta a William Scott, athrawon cerddoriaeth mawr eu parch ym Merthyr, a oedd y pryd hwnnw yn ganolfan gerddorol lewyrchus. Ym 1883 dyfarnwyd medal efydd i'r cyfansoddwr ifanc yn yr Eisteddfod Genedlaethol yng Nghaerdydd (cyflwynwyd iddo