Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Nicholas Evans: Darluniau gan Bianydd Gwallgof JOHN HARVEY Y mae'r erthygl hon yn rhoi cyflwyniad bras i waith yr arlunydd o Gymro Nicholas Evans. Ystyrir ei ddarluniau o safbwynt nifer o agweddau rhyngberthynol: celf, crefydd, diwydiant a cherddoriaeth. Trwy wneud hyn, honnir nad dogfennau darluniadol o'r pyllau glo a dim mwy yw lluniau Evans, a dadleuaf fod iddynt arwyddocâd crefyddol o fewn milieu cymdeithasol y dosbarth gweithiol a'r diwylliant Anghydffurfiol yng Nghymru. Ganwyd Nicholas Evans yn Aberdâr, Morgannwg ym 1907 a daeth yn was bach mewn pwll glo lleol, pan oedd yn bedair ar ddeg oed. Gadawodd y pwll ddwy flynedd yn ddiweddarach pan laddwyd ei dad, a oedd hefyd yn löwr, mewn damwain pwll. Am weddill ei oes waith cyflogwyd Evans fel taniwr ar y Great Western Railway.2 Dechreuodd beintio, yn ddeg a thrigain oed, ar ôl ymddeol. Trodd rhywbeth a ddechreuodd fel difyrrwch hamdden i Evans yn obsesiwn a esgorodd dros bymtheng mlynedd ar gorff mawr o ddarluniau sy'n hynod yng nghysondeb eu ffurf a'u gweledigaeth. Y mae'r darluniau bron i gyd yn unffurf bedair troedfedd sgwâr ar galedfwrdd wedi'i astellu a'i breimio ag emwlsiwn gwyn masnachol. Gorchuddir y caledfwrdd preimiedig â haen ddidraidd o baent olew Lamp Black a chreir y ddelwedd gan amlaf drwy broses o ddileu: rhwbir y paent i ffwrdd â'r bysedd, â chadachau a sbwng i ddatgelu'r cefndir gwyn. Y mae mwyafrif y gweithiau hyn yn dangos golygfeydd o hanes y glofeydd o ddiwedd y ddeunawfed ganrif i tua chanol yr ugeinfed ganrif (Plât 1, t.247). Tynnwyd y delweddau nid yn unig o'i brofiad ef ei hun fel glowr ond hefyd o oes gyfan o edrych ar byllau a glowyr Aberdâr. Felly, yn wahanol i lawer o arlunwyr glofeydd De Cymru yn enwedig Josef Herman (g.1911), émigré o Wlad Pwyl; yr arlunydd Albanaidd George Chapman (1908-94); a Jack Crabtree (g.1938), arlunydd o Lancaster, y mae Evans wedi darlunio'r diwydiant o'r tu mewn, o safbwynt gwr o Dde Cymru a chyn-löwr.