Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Gwrthleisiau: Geraint Jarman a Gwreiddiau Reggae mewn Cerddoriaeth Boblogaidd Gymreig PWYLL AP SION Er diwedd y 1970au ystyriwyd Geraint Jarman yn un o brif ddehonglwyr reggae mewn cerddoriaeth boblogaidd Gymreig. Er bod Jarman wedi ysgrifennu a recordio caneuon sy'n dangos amrywiaeth o arddulliau ac agweddau poblogaidd, gellir dadlau mai ym maes cerddoriaeth reggae y cafwyd canlyniadau mwyaf buddiol a diddorol ei waith, yn fasnachol ac yn esthetig. Ar yr olwg gyntaf, gallai lleoli arddull 'estron' fel reggae o fewn tiriogaeth ddi-fap cerddoriaeth bop Gymreig ymddangos yn ddigyswllt yn ddiwylliannol os nad yn anaddas ac yn ffuantus rhywsut. Fodd bynnag, fe fagodd cerddoriaeth reggae rhyw rymuster ac uniongyrchedd mynegiant mewn llawer o ganeuon pop brodorol yng Nghymru, yn enwedig yn ystod yr 1980au. Amcan yr erthygl hon yw mapio'r cyd-destun lle daeth reggae yn berthnasol i dueddiadau is-ddiwylliannol Cymru a'i cherddoriaeth. Deuir i gasgliadau ynglyn â chaneuon Geraint Jarman yn y genre hwn, yn arbennig o'i albwm Fflamau'r Ddraig, a ryddhawyd ym 1980.1 Cyn ymdrin â rhai enghreifftiau penodol o'r repertoire reggae rhaid bwrw golwg sydyn dros hanes defnydd a derbyn y term fel y mae wedi ymddangos mewn papurau newydd a chylchgronau pop Cymraeg. Yn ystod yr 1980au daeth y term yn fwyfwy cyffredin mewn adolygiadau, nodiadau, sgyrsiau ac ysgrifau yn delio â cherddoriaeth Jarman. Ond nid yw'n rhyfedd deall mai gweddol ddiweddar yw tarddiad y gair nèu o leiaf ei ddefnydd yn yr iaith Gymraeg. Disgrifiodd yr awdur Eurof Williams gân gan y grwp roc Edward H. Dafis sef 'Hi Yw' fel un a oedd yn perthyn 'rhywsut i "deulu reggae'2 2 ac fe honnai Hefin Wyn iddo glywed 'cyffyrddiadau "reggae'" yn treiddio drwy gân gynharach gan Jarman, sef 'Lawr yn y Ddinas'.3 Mae enghreifftiau o'r fath yn cyfeirio at ddefnydd gofalus a byrhoedlog yn aml o'r gair 'reggae', fel pe bai'r term ei hun yn ddieithr ac anghyfarwydd i eirfa a