Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Rhagarweiniad a Diolchiadau Robert ap Huw (c.1580-1665), telynor a bardd o Fôn, oedd awdur llawysgrif unigryw o gerddoriaeth i'r delyn (Lbl MS Add. 14905). Mae'r corff hwn o gerddoriaeth, gyda pheth ohoni'n tarddu o'r drydedd ganrif ar ddeg, yn perthyn i draddodiad Cymreig cerdd dant, ac ymddengys yn hollol wahanol i brif ffrwd cerddoriaeth offerynnol Ewrop yn nechrau'r ail ganrif ar bymtheg. Ond awgryma rhestrau alawon cyfoes a dernyn o gerddoriaeth a gopïwyd gan Iolo Morganwg ym 1800 (Lbl MS Add. 14970) fod y llawysgrif yn nodweddiadol o grwp mwy o ffynonellau coll, ac yn sicr mae'n cynrychioli repertoire sylweddol a oedd yn wybyddus yng Nghymru yn ystod yr unfed a'r ail ganrif ar bymtheg. O'r herwydd, mae llawysgrif Robert ap Huw yn galw am astudiaeth ddwys oherwydd ei statws unigryw ond cynrychioladol. Mae wedi denu sylw hynafiaethwyr a haneswyr er y ddeunawfed ganrif, eithr dim ond gyda'r ymchwil ddiweddaraf i'r delyn gynnar, y modd y chwaraeid ac y cyweirid hi a'r cyd-destun diwylliannol, cerddorol a llenyddol, y dechreua'r problemau sydd ynghlwm wrth ddeall y ffynhonnell a'i repertoire ddod i'r golwg. Symposiwm a gynhaliwyd ym 1995 gan Ganolfan Uwch- Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru a symbylodd y gyfrol hon. Fodd bynnag, mae'n cynnwys ymchwil a chysyniadau newydd a wnaed ers hynny, ac mae'n rhan o brosiect cydweithredol sydd ar y gweill. Ceir yma astudiaethau o gefndir Robert ap Huw, hanes y llawysgrif, ei repertoire, cyfansoddwyr cysylltiedig â'r dechneg gyfansoddol; y traddodiad llafar (a chlywedol) y mae'n rhan ohono a'r dech- neg delyn gyfoes a adlewyrchir ynddi, yn ogystal â'r llawysgrif gysylltiedig gan Iolo Morganwg. Dylai'r mynegeion cynhwysfawr, y deunydd esboniadol a'r eirfa, er ei bod ymhell o fod yn derfynol, fod o gymorth â'r derminoleg fwy astrus, ac maent i gyd yn sail ar gyfer datblygiad pellach. Treuliodd Robert ap Huw y rhan fwyaf o'i oes ym Môn. Fodd bynnag, mae'r arfbais arian ar ei delyn orau a chywydd a gyfansodd- wyd i'w anrhydeddu gan Huw Machno (c. 1560-1637) yn awgrymu y gallai, fel cerddorion Cymreig eraill o'r un cyfnod, fod wedi gweithio yn y llys brenhinol am amser byr o leiaf. Yma fe fyddai wedi clywed y gerddoriaeth fwyaf ffasiynol a chwaraeid yng