Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

nghylch y llys. Ni ddatgelir dim o hyn yn ei gasgliad o gerddoriaeth delyn Gymreig, sydd wedi ei hynysu o ran estheteg a thechneg, ac efallai mai ymgais yw'r llawysgrif i gadw i'r oesoedd i ddod repertoire hynafol a ddisodlwyd bellach gan ffasiynau newydd. Os yw'n nodweddiadol o weithiau a chwaraeid gan olyniaeth y Tuduriaid a'r Stiwartiaid cynnar, mae'n debyg iddi beri'r un ymateb syfrdan ag a geir i berfformiadau heddiw, sy'n ysgogi cymaint o ddiddordeb a chwilfrydedd yn y dyn, y llawysgrif, a'r gerddoriaeth. Atgynhyrchir y platiau a'r ffigurau o Lbl MS Add. 14905 a Lbl MS Add. 14970 (tt. 90, 112-13, 263-8) i gyd gyda chaniatâd y Llyfr- gell Brydeinig, felly hefyd destun Statud Gruffudd ap Cynan o Lbl MS Add. 19711 (tt. 285-91). Atgynhyrchir y plât o AB MS 17116-B (Gwysaney 28) (t. 193) drwy ganiatâd Llyfrgell Genedlaethol Cymru. Atgynhyrchir Ffigur 4a (t. 270) o J. A. Fuller Maitland a W. Barclay Squire (gol.), The Fitiwilliam Virginal Book, Dover Edition diwygiedig, cywiriedig, golygwyd a chyda rhagarweiniad gan Blanche Winogron, Dover Publications Inc., Toronto a London 1979-80, cyf. n, t. 366. Gwaith ar y cyd fu'r gyfrol hon o'r cychwyn cyntaf, ac yr wyf yn ddiolchgar iawn i bawb a gymerodd ran yn Symposium Robert ap Huw ym 1995 yng Nghanolfan Uwch-Astudiaethau Cerddoriaeth Cymru, lle yr esgorwyd ar gymaint ohoni a'i thrafod. Dylid diolch yn arbennig i Peter Crossley-Holland am ei gyngor doeth a'i anogaeth, i Peter Greenhill a David Klausner am rannu ymchwil angyhoeddedig helaeth, i Robert Evans am gymorth â'r eirfa, ac i Lyn Davies a Chyngor Celfyddydau Cymru am gymhorthdal arian- nol hael. Mae Wyn Thomas, Ruth Dennis-Jones (Gwasg Prifysgol Cymru), Andrew Lewis ac Alistair Warwick i gyd wedi rhoi cymorth sylweddol a hanfodol ar agweddau yn ymneud â diwyg y cyhoedd- iad. Heb dri unigolyn, fodd bynnag, ni allai'r gyfrol hon erioed fod wedi dwyn ffrwyth: John Harper, gan mai ei syniad ef oedd y cwbl; Glenda Carr a barhaodd i gynhyrchu cyfieithiadau meistrolgar yn hynod o gyflym er i ddamwain ddifrifol ei chaethiwo i'r ty am dri mis; a Jennie Lewis, a fu'n golygydd cynorthwyol a chysodydd diffael o gefnogol ac amyneddgar trwy gydol yr amser. Sally Harper Llangoed, Môn Chwefror 1999 Cyfieithwyd gan Glenda Carr