Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

fod wedi dianc fel hyn o ddwylo'r gyfraith yn drosedd arall y cyhuddwyd ef ohoni. Mae'r ffeithiau moel hyn, fodd bynnag, yn cuddio nifer o fanylion sydd yn taflu goleuni annisgwyl ar fywyd cynnar llenor a cherddor o ddechrau'r ail ganrif ar bymtheg, oherwydd y mae bron yn sicr mai'r dihiryn y sonnir amdano yn y deponiadau cyfreithiol yn Ebrill a Mai 1600 oedd Robert ap Huw, a luniodd y llawysgrif gynharaf ar glawr o gerddoriaeth Gymreig mewn nodiant i'r delyn.8 Yn ôl y dystiolaeth ysgrifenedig, gwr o Fôn ydoedd, wedi ei eni ym Mhenmynydd,9 ac yn ddyn a allai, fel y mae ef ei hun yn tystio, ysgrifennu dawn brin ynddi ei hun yn y cyfnod hwn.10 Ers yr hydref blaenorol buasai'n crwydro o dy i dy yn y rhan hon o ogledd-ddwyrain Cymru, gan aros mewn rhai cartrefi am wythnos ar y tro, neu gael pryd o fwyd yn unig mewn mannau eraill, ond nid awgrymir yn unman ei fod yn grwydryn na allai ei gynnal ei hun. Â'i i rai tai yn rheolaidd, ac yr oedd y rhain yn gartrefi i fân uchelwyr y gellir olrhain tras rhai ohonynt yn bur fanwl. Un o'r mân uchelwyr hyn oedd Edward ap John Wynn o deuluoedd Euarth neu Gerddinog yn Llanfair Dyffryn Clwyd, a oedd yn byw yn Llanelidan ar y pryd.11 Yr oedd yn enwog fel casglwr llawysgrifau yn yr union gyfnod hwn ac yn hyddysg yn y traddodiadau llafar am hanes Cymru.12 Yr oedd hefyd yn gâr i Thomas Wynn o Euarth, yntau'n gasglwr o fri ac yn gopïwr llawysgrifau.13 Bu'r gwr o Fôn hefyd yn ymweld â Thomas ap Roger Lloyd o Blas Einion, eto yn Llanfair Dyffryn Clwyd ac yma y rhestiwyd ef yn Ebrill 1600.14 Arhosodd hefyd yn Nerwen Deg, lIe yr oedd uchelwr lleol arall yn byw, sef William ap Edward.15 Mae'r cyfeiriad at fodolaeth llawysgrifau yng nghartref Ieuan ab Ithel, sef Plas Llelo yn ôl pob tebyg, hefyd yn hynod arwyddocaol. Ym 1552 ysgrifennwyd llawysgrif a gedwir yn awr yn y Llyfrgell Brydeinig, ac sy'n cynnwys, ymhlith pethau eraill, computus mydryddol Cymraeg ac anterliwtiau, gan ryw Lywelyn ap Maredudd, neu Lelo Gwta.16 Cysylltwyd ei enw gan awduron diweddarach â Phlas Llelo yn Nerwen, er nad oes tystiolaeth yn yr achau cyfoes i gysylltu ei enw â'r lle hwn.17 Yn sicr ymddengys fod ganddo gysylltiadau â'r ardal hon, fodd bynnag, gan fod darn o gywydd dychan yn cyfeirio at y trafferthion cyfreithiol a ddaeth i ran Llelo yn y Cyngor yn Llwydlo yn ei lawysgrif, wedi ei ysgrifennu gan y bardd a drafodir isod, sef Simwnt Fychan.18 Dengys cysylltiadau Llelo ag ysgolheigion a chopïwyr eraill o ogledd-ddwyrain Cymru ei fod yn wr o bwys yng nghanol yr unfed ganrif ar bymtheg. Copïwyd y computus Cymraeg mydryddol a briodolir i Ddafydd Nanmor,19 er enghraifft, gan eraill o ogledd-ddwyrain Cymru yn yr hanner canrif cyn 1552, gan gynnwys Gruffydd ab Ieuan ab Llywelyn Fychan ac Elis Gruffydd.20