Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

ymwybyddiaeth ar y pryd o ddirywiad yn y wybodaeth o'r mesurau cerddorol Cymreig a bod eu rhoi ar glawr yn ymgais gan garfan a oedd ar drai i ymestyn y cof amdanynt. Gweler hefyd uchod tt. 31-3, 35-6 ac isod 40-4. 80 Gellid talu beirdd mewn arian, ond yn aml fe'u telid mewn nwyddau, ambell dro mewn dillad a defnydd. Am y cyfraddau tâl a bennwyd, gweler Klausner, 'Statud Gruffudd ap Cynan', 11. 243-59 (t. 290), a G. Thomas, Eisteddfodau Caerwys, 69. Am feirdd y canol oesoedd diweddar yn hawlio tâl ar ffurf dillad gwely neu ddefnyddiau brodiog gweler D. J. Bowen, 'Beirdd a noddwyr y bymthegfed ganrif, 5, 18-20. 81 AB Wales 4/11/1/14. 82 Cyfansoddodd taid Robert ap Huw, Siôn Brwynog, a Simwnt Fychan ill dau farwnadau i dad David Owen, Richard Owen, ar ei farwolaeth, c.1557 (Glyn Roberts, 'Teulu Penmynydd' yn Aspects of Welsh History (Cardiff, 1969), 262-4). 83 Glyn Roberts, op. cit., 267-70. 84 AB Wales 4/11/1/14. 85 Ibid. 86 Gweler tt. 31-2. 87 AB Wales 4/11/1/15. 88 Gweler nodiadau 27-8. 89 AB MS Peniarth 169, tt. 1-75, 87-103, 107-8, 111-13, 119-36, 359- 64. ‘O lyfr S. V. 364. Copi yw hwn o Ojec MS 9, tt. 5-197, 'Llyma ddysg i adnabod kerddwriaeth kerdd davod: herwydd llyfr D. ddu athraw', a ysgrifennwyd rywbryd cyn 1575 yn llaw Simwnt Fychan. Cydnabyddir fod Simwnt Fychan ei hun wedi ymestyn y deunydd cynharach. Yr oedd y llawysgrif hon yn cylchdroi ymhlith ysgolheigion a chopïwyr yn ystod ail hanner yr unfed ganrif ar bymtheg fel ag a welir o'r nodyn a ychwanegwyd ar d. 259, 'D. I.' yn llaw David Johns. Yn arwyddocaol, ymddengys enw'r telynor o Faenan, Dafydd Maenan, yntau ar t. 247. Trawsgrifiwyd yr un deunydd i lawysgrif arall a luniwyd rhwng 1579 a 1585 yn yr ardal hon gan Richard ap John o Scorlegan (AB MS Peniarth 159), ynghyd â deunydd a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan David Johns. Ar un adeg defnyddiwyd AB MS Peniarth 169 gan yr ysgolhaig a'r geiriadurwr Thomas Wiliems, Trefriw. 90 AB MS Peniarth 169, t. 353. 91 AB MS Peniarth 168, ffo. 33rv: 'Henuaeü xiiij o brif geingkiaü a unaeth Kyhelyn a Chydugan' (fo. 33r); 'Henuau iv gostec kerd danneü' (ffo. 33v). 92 AB MS Cwrtmawr 530-A, tt. 10, 15. 93 Gweler N. Lloyd, 'A History of Welsh Scholarship in the first half of the Seventeenth Century', 70-4. 94 AB Wales 4/11/1/15. 95 AB Wales 4/11/1/14-15, 19-20. Yn AB Wales 4/11/1/19-20 gelwir yr un person am yn ail yn Edward ap John Wynn ac Edward ap John. Am yr anhawster o wybod pwy oedd Edward ap John Wynn gweler nodyn 11. 96 Gweler uchod t. 32. Trafodir llawysgrifau yn llaw Roger Morys a gopïwyd gan John Jones, Gellilyfdy, yn fanwl gan N. Lloyd, 'A Study of Welsh Scholarship in the first half of the Seventeenth Century, with special reference to the writings of John Jones, Gellilyfdy', 63-75, 264-8. Gweler hefyd R. I. Denis-Jones, op. cit., ix-x, xliii. Ceir cyfeiriad diddorol wrth fynd