Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

heibio at ryw John Jones a ddisgrifir fel 'clerck' yn Llanfair Dyffryn Clwyd yn y deponiadau hyn o 1600 (AB Wales 4/11/1/13); bwriadaf ymchwilio ymhellach i'r posibilrwydd mai John Jones, Gellilyfdy, sy'n ymddangos fel copïwr ryw bum mlynedd yn ddiweddarach, oedd hwn o gofio'r ffaith fod gan lawer o'r deunydd a gopïwyd gan y cyfryw gysylltiadau â Llanfair Dyffryn Clwyd a'r cyffiniau. 97 Gweler nodyn 43. 98 Richard Ovenden, op. cit. 99 N. Lloyd, op. cit., 272. ioo AflWales 4/11/1/13, 14, 15. 101 Gweler nodyn 96 ynglyn â'r awgrym hwn. Fel rheol, dynodai'r gair 'clerk' offeiriad neu rywun mewn urddau sanctaidd, ond yn ystod yr unfed ganrif ar bymtheg fe'i defnyddid hefyd i ddynodi person a fedrai ddarllen ac ysgrifennu, disgybl yng ngwyddor llythrennau, rhywun a gyflogid i lunio copiau o ddogfennau mewn llawysgrifen gain, neu gopïwr. Am wahanol ystyron 'clerk' gweler A. J. Simpson ac E. C. S. Wiener (gol.), The Oxford English Dictionary, ail arg. (Oxford, 1989), iii, 313-14. 102 AB Wales 4/11/1/13. 103 Gweler E. P. Roberts, 'Marwnadau Telynorion', 89-90, 101-2. 104 Y Bywgraffiadur Cymreig, 956. 105 Gweler tt. 43-4 a nodyn 58. Enwir ef ym 'Marwnad Gwyr wrth gerdd' gan Siôn Tudur, a gyfansoddwyd 1574-80 (E. P. Roberts, Gwaith Siôn Tudur, i, 555-7; ii, 502); cyfansoddwyd marwnad er clod iddo gan Wiliam Cynwal (Bangor (Mostyn) 4, 222). Gweler hefyd E. P. Roberts, 'Marwnadau Telynorion', 82, 86-7, 110-11. 106 Ibid., 86-7, 91, 110. Ymae'r dehongliad hwn yn tybio fod dehongliad Lewis Morris o 'pricio' yn gywir. Gweler hefyd Harper, y cyhoeddiad presen- nol, 161. 107 Yr oedd AB MS 13167-B (1674) yn ddiweddarach yn Llyfrgell Llanofer; daeth AB MS 4710 (1676) i ddwylo John Parry (Bardd Alaw?), y telynor. Nid yw'r deunydd wedi ei gopïo yn yr un drefn. Gwelir cywydd Llywelyn ap Maredudd yn AB MS 13167, t. 302 ac AB MS 4710, t. 462 a cheir copi arall yn AB MS 9169, t. 29. 108 AB MS Cwrtmawr 6-B, tt. 95, 97. 109 Nodir y cysylltiad rhwng Gruffydd Robert a Roger Morys gan Thomas Evans o Hendreforfudd yn AB MS Llansteffan 34 (G. J. Williams, Gramadeg Cymraeg Gruffydd Robert, vi, lxxi, lxxv, lxxxi-lxxxv, xcix). Gwelir defnydd sgript italig i ddynodi ymddiddan yn eglur yn AB MS Cwrtmawr 530-A, tt. 1- 16. Y mae orgraff y Dadeni yn dechrau ar ôl t. 10, er bod tudalennau cynharach yn yr un llaw heb ddefnyddio'r dull hwnnw. 110 Y mae englynion a gyfansoddwyd mewn cystadleuaeth rhwng Simon Thelwall, William Mostyn a Syr Rhys Gruffydd o Benrhyn rywbryd cyn 1580 yn cyfnewid y termau crwth afftdil (AB MS 1553, t. 759). Yr wyf yn ddiolch- gar i Bethan Miles am y cyfeiriad hwn. 111 Y Bywgraffiadur Cymreig, 956. 112 AB MS 17116-B (Gwysaney 28), ffo. 75. Gwelir ei enw hefyd yn AB MS Peniarth 147, t. 203 ac yn llawysgrif Roger Morys, AB MS Peniarth 169, t. 253.