Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

hynaf, i Geredigion ym 1742, ond rhwng 1723 a 1727 yr oedd yn dirfesurydd i deulu Meyrick, Bodorgan, teulu o Fôn a fu'n gynharach yn noddwyr i daid Robert ap Huw, sef y bardd Siôn Brwynog (1510-62).8 Ymddengys fod nifer o lyfrau cerddoriaeth ym meddiant y teulu Meyrick. Ysgrifennodd John Owen, nai Lewis Morris, at Evan Evans 2 Tachwedd 1758: 'My uncle Lewis has got a curious manuscript wrote in Charles the 1 st time by one Robt ap Huw of Bodwigen in Anglesey I am told there are more of the sort in Bodorgan Library which phaps you may see one time or other',9 tra bo nodyn ar dudalen 22 0 lawysgrif Robert ap Huw ei hun (gweler Tabl 1, tt. 80-1) yn nodi fod yr adran clymau cytgerdd hefyd yn ymddangos yn 'Mr Meyrick's manuscript'. Mae hyd yn oed yn bosibl mai hwn oedd llyfr coll Wiliam Penllyn (fl. c. 1550-70) y dywedir i'r adran hon gael ei seilio arno. Lewis Morris oedd y cyntaf o olyniaeth hir o hynafiaethwyr ac ysgolheigion i archwilio'r llawysgrif telyn, ac mae'r testunau ychwanegol a ddaw o flaen ac ar ô1 llyfr gwreiddiol Robert ap Huw (neu'r hyn a oedd yn weddill ohono) yn ei law ef yn bennaf. Gosodwyd pymtheg dalen ychwanegol o bobtu'r deunydd gwreidd- iol pan rwymwyd y llyfr yn Llundain am ddeunaw ceiniog, yn fwy na thebyg yn hwyr ym 1742. Mae'r ychwanegiadau hyn yn cynnwys amrywiaeth o ddogfennau a gopïwyd dros nifer o flynyddoedd. Copïwyd y darn helaeth o Statud Gruffudd ap Cynan ar ddiwedd y gyfrol mor gynnar â 1727, o bosib cyn i'r llawysgrif ddod i feddiant Lewis Morris, tra bo dernyn ar ffo. 7r (t. 3) wedi ei ddyddio 1738, ac yr oedd Lewis yn dal i wneud newidiadau ym 1748, pan ailwiriodd ei gopi cynharach (diddyddiad) o'r proclamasiwn 'By the Queen' yn erbyn fersiwn gwreiddiol Mostyn 1693 (ffos. 3v-4r). Mae'n amlwg fod y llawysgrif wedi dod yn un o berlau ei gasgliad. Mewn llythyr 10 Mai 1743 at Dr Edward Wynne o Fodewryd, canghellor esgob- aeth Henffordd, cyfeiria Lewis Morris ati fel 'a MS. of ye Music of ye Ant. Brit which is much admired by yr Italian Masters &c.10 ac adleisir hyn yn ei ddalen deitl newydd sy'n sôn am hen wreiddiau barddol y gerddoriaeth: tystiolaeth glir ei fod nid yn unig yn awyddus i ddeall cynnwys cerddorol y llyfr, ond hefyd i'w leoli o fewn hanes Cymru fel dogfen o awdurdod o orffennol diwylliannol arwrol. Ar ôl marwolaeth Lewis ym 1765, aeth y llyfr i feddiant ei frawd Richard (1703-79), a dreuliodd y rhan fwyaf o'i oes yn gweithio yn Swyddfa'r Llynges yn Llundain. Richard a fu'n bennaf gyfrifol am sefydlu Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion ym 1751. Yr oedd ganddo yntau ddiddordeb mewn cerddoriaeth, ac yn wr ifanc ym Môn yr oedd wedi casglu penillion gwerin a llunio repertoire helaeth o alawon traddodiadol a phoblogaidd.11 Gwnaeth Richard ei