Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

t. 56, dros ddarn drylliedig o'r gwreiddiol: 'y ddigan y droell'. Inc du; Llaw o'r ddeunawfed ganrif. Gellir gweld olion y teitl gwreiddiol yn syth oddi tano. t. 66 (i), trydedd system: 'iiii' wedi ei ddileu. t. 66 (ii), gwaelod y dudalen: 'ar Fesur fflamgwr gwran'. Llaw o'r ddeunawfed ganrif. (Yn ôl pob golwg mae'r rhifau o'i flaen yn llaw Robert ap Huw.) t. 67, system ar y brig, dan y ffrâm uchaf: 'David Owens'. Llaw o'r ddeunawfed ganrif gynnar, yr un un â t. 22? t. 68, ymyl chwith yn y gwaelod: 'viii' wedi ei ddileu. t. 69, ymyl chwith: 'Caniad San Silin'. Inc tywyllach; llaw o'r ddeunawfed ganrif. t. 90, i'r chwith o'r ail system: colofn o lonodau ac 0; pensel. t. 107 (i), i'r dde o'r pedwerydd teitl ('Rhiniart'): 'See p. 34'; '=1011.1011. Gweler t. 23.' Llaw o'r ddeunawfed ganrif. t. 107 (ii), ymyl dde'r dudalen: '=1001100010111. See p. 25'; ‘=10011000100111. p. 33'; 'but see p. 27.' Llaw o'r ddeunawfed ganrif. t. 109 (i), ymyl dde, wrth ochr pob un o'r teitlau 2-7: 'Corffiniwr/ yrun/Rhiniart/yrun/mac:/Corsgoloff. Pensel; llaw o'r ddeunawfed ganrif (?) t. 109 (ii), Adran gyfan wedi ei hamgau â dwy linell lorweddol. Rhestr o gyweiriau yn dechrau â 'Cywair tro tant'. Llaw o'r ddeunawfed ganrif. t. 109 (iii), Adran gyfan dan y llinell lorweddol olaf. Rhestr o dermau, yn dechrau â 'Cadair'. Yr un llaw ag (i) uchod. t. 109 (iv) Diffiniadau ychwanegol yn Saesneg ar gyfer y termau. Inc brown dyfrllyd; llaw fodern (?)