Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

Techneg Telyn Robert ap Huw WILLIAM TAYLOR Yr ydym yn cyfeiliorni os tybiwn ei bod yn ddigon trawsgrifio nodau llawysgrif Robert ap Huw yn unig. Nid chwarae dilyniant o nodau ar offeryn o'n dewis yn unig yw cerddoriaeth. Pe na bai chwarae'r gerddoriaeth yn y llawysgrif yn ddim byd mwy na chynhyrchu nodau, yna llawn cystal fyddai inni fodloni ar wrando ar robotiaid yn adrodd barddoniaeth. Fel yr iaith lafar, mae cerdd- oriaeth yn ymwneud â phatrymau sain wedi eu cyflwyno mewn grwpiau gwrthgyferbyniol, wedi eu llunio mewn cymalau sy'n atyniadol i'r glust. Yn y byd clasurol a thrwy'r Oesoedd Canol, ceid techneg ar gyfer llefaru'n gywir, sef rhethreg. Fel disgyblaeth a draddodid yn helaeth yr oedd ganddi ei geirfa o droadau neu 'liwiau' geiriau, gan gynnwys ailadrodd, dad-ddweud a mwyseirio, a ddefnyddid yn effeithiol iawn gan ei hymarferwyr. Yn yr un modd, rhaid inni dderbyn fod cerddoriaeth hefyd fel modd arall o gyfath- rebu, yn dibynnu ar draddodi celfydd sy'n ffordd o argyhoeddi'r gwrandawr. Mae'r gerddoriaeth yn llawysgrif Robert ap Huw mor gain a chynnil â barddoniaeth. Rhaid inni gymryd amser i ddysgu'r dechneg a rydd inni'n glir ar dudalen 35 ei lawysgrif fel y gallem, wrth berfformio ei gerddoriaeth, berswadio ein cynulleidfaoedd modern i glywed byd-sain a oedd yn perthyn i Gymru'r Oesoedd Canol, yn gwbl wahanol i ddim byd a'i dilynodd. Mae tudalen 35 a atgynhyrchir yma fel Ffigur 1 (t. 90), yn rhoi thesawrws o fformiwlâu cerddorol, a elwir yn 'gogwyddor i ddysgu y prikiad', sy'n cynnwys gwahanol ffyrdd o daro'r un nodyn, ffyrdd o symud rhwng nodau cyfagos a ffyrdd o chwarae nodau o wahanol gyfyngau. Mae techneg y delyn bedal fodern yn ymwneud yn bennaf â chynhyrchu sain cyfoethog, soniarus trwy blycio'r tannau coludd â chnawd blaenau'r bysedd. Mewn cyferbyniad, mae Robert ap Huw yn rhoi inni saith ffordd wahanol o chwarae nodyn uni- gol. Rhydd inni dechneg ewin i'w pherfformio ar delyn Gymreig ei