Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iddynt seinio'r un nodyn, yn gynnil o wahanol yn y modd y cynhyrchir hwy, gan fod pwysau'r bysedd yn amrywio tôn, maint a chyflymdra'r nodau. Wrth ddefnyddio'r system gyson hon o fyseddu, gellir adnabod y ffigurau eraill. Nid yw bob amser yn amlwg pa fysedd a ddefnyddir ar gyfer lladd y swn. Ar gyfer rhai ohonynt, pylir y nodau du gan yr un bysedd ag a'i plyciodd, fel yn rhif 2, y plethiad byr, a rhif 17, plethiad mawr, lle mae bys tri yn plycio ac yn lladd y swn yn y ddau. Ambell dro, enw'r ffigur sy'n rhoi awgrym ar gyfer adnabod y bys pylu, fel yn rhif 4, plethiad y bys bach. Rhaid cael tri bys ar gyfer patrwm esgynnol, gan ddefnyddio bys tri, dau ac un. Pam y gelwir y ffigur hwn yn 'plethiad y bys bach'? Oherwydd fe ddefnyddir y bys bach gyda'r pedwerydd bys i bylu'r ddau nodyn isaf symudiad lletchwith ar y dechrau, ond fe ddaw'n fwyfwy cyfarwydd gydag arfer. Mae rhif 1, taked y fawd, rhif 14, takiad fforchog, rhif 13, tagiad dwbl a rhif 8, tafliad y bys i gyd yn cychwyn gyda'r ail fys a bylir ar unwaith gan y bawd. Byseddir taked y fawd (rhif 1) gyda bys dau a thri ar gyfer tannau cyfagos; mae takiad fforchog (rhif 14) yn defnyddio bys dau a phedwar ar gyfer cyfwng mwy. Yn ddiddorol mae'r tagiad dwbl (rhif 13) yn pylu'r ddau nodyn yn y patrwm. Mae tafliad y bys (rhif 8) yn cychwyn fel taked y fawd ond yn mynd ymlaen fel ysgwyd y bys, gan daro'n ôl ac ymlaen gyda'r ewin ar draws y tant. Mae rhif 7, haner krafiad, rhif 6, krafiad sengl a rhif 5, krafiad dwbl o fewn teulu o batrymau, bob un ohonynt yn grafiadau. Mae haner Jcrafiad yn defnyddio bys tri a phedwar, gyda'r pedwerydd yn 'crafu' am i fyny i bylu'r nodyn a chwaraeir gan y trydydd. Mae hrafiad sengl yn debyg, ond mae'n cyflwyno harmoni o drydydd a chwaraeir gan fys pedwar a dau, eto gyda bys pedwar yn lladd swn y nodyn a chwaraeir gan y trydydd bys. Mae krafìad dwbl yn 'grafiad dwbl' yng ngwir ystyr y gair, lle gelwir ar fys tri a phedwar ill dau i 'grafu' am i fyny i ladd y swn; neu fel arall, gellid pylu'r ddau dant uwch gyda'i gilydd gan fys pedwar. Mae rhif 9, plethiad dwbl, yn gweithredu fel isfordent, gan alw ar i'r bawd lithro i lawr i bylu'r nodyn is, yn debyg i 'drawiad saib' mewn techneg gitâr clasurol. Mae rhif 10, plethiad y wanhynen [gwenynen] yn defnyddio naill ai pedwar bys, fel y gwelir yn yr eicon ar gyfer y patrwm ei hun pedwar bys yn gorwedd yn erbyn y tant neu efallai dri bys, yn dibynnu ar fydr rhythmig y darn dan sylw. Y naill ffordd neu'r llall, mae grwp o nodau ailadroddus wedi eu chwarae'n gyflym ar ôl ei gilydd ar delyn wrachïod yn sicr yn ein hatgoffa o wenyn yn suo. Soniwyd eisoes am krychu y fawd, rhif 11, ac ysgwyd y bys, rhif 12, fel ein man cychwyn ar gyfer deall y