Welsh Journals

Search over 450 titles and 1.2 million pages

iddynt gael eu trawsgrifio i sgôr fodern yn rhan o baradocs nodiant. Ni waeth pa mor gyson mae 'golygiad beirniadol' o fotet yn atgynhyrchu'r ffynhonnell wreiddiol, trosiad o'r 'gwreiddiol' yw serch hynny, wedi ei dynnu allan o'i gyd-destun diwylliannol. Ni ellir gosod mewn nodiant lawer iawn o elfennau, fel y gwyddom yn burion o gerddoriaeth diwylliannau o'r tu hwnt i'r Gorllewin. Ond fel y dadleua Margaret Bent, ein hawydd am sgôr ddestlus yr olwg yw sail dechrau ein problemau.34 Felly, beth am lawysgrif Robert ap Huw? Os mai fel mnemonig yn bennaf y bwriedid ei nodiant i Robert a'i gyfoeswyr, ni ellir ei thrin yn yr un ffordd â sgôr gonfensiynol. Ac yn yr un modd, os tarddodd o'i bryder fod hen gerddoriaeth telyn Cymru mewn perygl o fynd i ebargofiant a bod yn rhaid cadw rhywfaint ohoni, rhaid cofio fod Robert ei hun yn rhan o ddiwylliant cerddorol llafar. Mae'n rhaid ystyried yn ddifrifol i ba raddau y gall ein dealltwriaeth elwa o olygiad sgôr o'i dablun yn unig. Gallai fod fel tynnu palmwydden Affricanaidd o'i gwraidd, ceisio ei hailblannu yn Siberia, a disgwyl i'r goeden honno ymddwyn fel na phe bai dim o gwbl wedi digwydd iddi. Cyfieithwyd gan Glenda Carr Nodiadau 1 Peter Crossley-Holland, 'Secular Homophonic Music in Wales in the Middle Ages', Music and Letters, 23 (1942), 135-62; Thurston Dart, 'Robert ap Huw's Mansucript of Welsh Harp Music (c.1613)', The Galpin Society Journal, 21, (1968), 52-65; Paul Whittaker, 'British Museum Additional Manuscript 14905; An Interpretation and Re-examination of the Music and Text', (Prifysgol Cymru, Bangor, traethawd M.A., 1974); Claire Polin, The ap Huw Manuscript (Henryville, 1982). 2 Bruno Nettl, 'Types of Tradition and Transmission', yn Kay Kaufman Shelemay (gol.), Musical Processes, Resources and Technologies, The Garland Library of Readings in Ethnomusicology, 6 (New York and London, 1990), 297. (Argraffwyd gyntaf yn Robert Falck a Timothy Rice (gol.), Cross- Cultural Perspectives in Music (Toronto, 1982).) 3 Ibid., 297. 4 Leo Treitler, 'Homer and Gregory: The Transmission of Epic Poetry and Plainchant', The Musical Quarterly, 60 (1974), 333-72. 5 Nettl, op. cit., 302-3. 6 Ibid., 304. 7 Leo Treitler, 'Orality and Literacy in the Music of the European Middle Ages', yn Y. Tokumaru ac O. Yamaguti (gol.), The Oral and the Literate in Music (Tokyo, 1986), 39.